Mater - cyfarfodydd

Constitutional Issues including Committees

Cyfarfod: 04/05/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)

7 Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.

 

Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r pwyllgorau sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01 yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2022/23:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:

  • Tai a Chymunedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol a bod y Cyngor eisoes wedi penderfynu y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i allu cynrychioli pob gr?p gwleidyddol.   Cyfeiriwyd at ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau fel y manylir ym mhwynt 1.04 yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y rheol am gydbwysedd gwleidyddol a oedd y nodi bod gan gr?p mwyafrifol hawl i fwyafrif ym mhob pwyllgor.  Eglurodd, mewn sefyllfa lle’r oedd gan y gr?p mwyafrifol hanner y seddi, yn cynnwys y Cadeirydd, ar bwyllgor gyda 12 aelod, byddai pleidlais fwrw’r Cadeirydd, i bob pwrpas, yn rhoi rheolaeth gyffredinol iddynt.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor newid maint y pwyllgorau ar ôl y Cyfarfod Blynyddol os y gellid dod i gytundeb rhwng Arweinwyr Grwpiau.  Ychwanegodd hefyd nad oedd y rheol am gydbwysedd gwleidyddol yn rhoi ystyriaeth i bleidleisiau bwrw gan Gadeiryddion a dywedodd bod nifer o bwyllgorau lle nad oedd y gr?p mwyafrifol yn cael y bleidlais fwrw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, dywedodd y Prif Swyddog bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn gr?p ymgynghorol a benodwyd o dan drefniadau gweithredol â rôl a oedd yn cael ei chydnabod yn y Cyfansoddiad, felly nid oedd wedi’i gynnwys ar y rhestr o gyrff gwneud penderfyniadau ffurfiol yn yr adroddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge ddiwygiad, sef y dylid cyfeirio cais y Cynghorydd Banks i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er mwyn gallu cyflwyno adroddiad yn ôl i’r Cyngor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7