Mater - cyfarfodydd
Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau
Cyfarfod: 04/05/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)
7 Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau PDF 126 KB
Pwrpas: Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Political balance calculation, eitem 7 PDF 65 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.
Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.
(i) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r pwyllgorau sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01 yr adroddiad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin. O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2022/23:
Pwyllgor Apeliadau
Pwyllgor Newid Hinsawdd
Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd
Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Pwyllgor Cwynion
Pwyllgor Apeliadau Cwynion
Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu
Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)
Pwyllgor Trwyddedu
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:
- Tai a Chymunedau
- Adnoddau Corfforaethol
- Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
- Yr Amgylchedd a’r Economi
- Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Pwyllgor Cynllunio
Pwyllgor Safonau
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol a bod y Cyngor eisoes wedi penderfynu y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i allu cynrychioli pob gr?p gwleidyddol. Cyfeiriwyd at ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau fel y manylir ym mhwynt 1.04 yn yr adroddiad.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y rheol am gydbwysedd gwleidyddol a oedd y nodi bod gan gr?p mwyafrifol hawl i fwyafrif ym mhob pwyllgor. Eglurodd, mewn sefyllfa lle’r oedd gan y gr?p mwyafrifol hanner y seddi, yn cynnwys y Cadeirydd, ar bwyllgor gyda 12 aelod, byddai pleidlais fwrw’r Cadeirydd, i bob pwrpas, yn rhoi rheolaeth gyffredinol iddynt.
Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor newid maint y pwyllgorau ar ôl y Cyfarfod Blynyddol os y gellid dod i gytundeb rhwng Arweinwyr Grwpiau. Ychwanegodd hefyd nad oedd y rheol am gydbwysedd gwleidyddol yn rhoi ystyriaeth i bleidleisiau bwrw gan Gadeiryddion a dywedodd bod nifer o bwyllgorau lle nad oedd y gr?p mwyafrifol yn cael y bleidlais fwrw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, dywedodd y Prif Swyddog bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn gr?p ymgynghorol a benodwyd o dan drefniadau gweithredol â rôl a oedd yn cael ei chydnabod yn y Cyfansoddiad, felly nid oedd wedi’i gynnwys ar y rhestr o gyrff gwneud penderfyniadau ffurfiol yn yr adroddiad.
Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge ddiwygiad, sef y dylid cyfeirio cais y Cynghorydd Banks i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er mwyn gallu cyflwyno adroddiad yn ôl i’r Cyngor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 7