Mater - cyfarfodydd
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 146)
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052
Pwrpas: Rhannu Cynllun Busnes Cartrefi NEWYDD 2023/52 am sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd bod Cynllun Busnes Tai (NEW) yn nodi elfennau allweddol Strategaeth Ddatblygu arfaethedig y cwmni i gynyddu’r nifer o eiddo rhent fforddiadwy i'w cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf, i gynyddu’r nifer o eiddo sy’n cael eu rheoli gan NEW Homes.
Roedd rhwymedigaeth ar Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i geisio cymeradwyaeth y Cabinet o ran unrhyw Gynllun Busnes oedd yn darparu amcanion strategol y cwmni.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2023/2052.