Mater - cyfarfodydd

Polisi Torri Gwair - Rheoli Ymylon Ffordd a Glaswelltiroedd Amwynderau i Gefnogi Bioamrywiaeth

Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 138)

138 Polisi Torri Gwair - Rheoli Ymylon Ffordd a Glaswelltiroedd Amwynderau i Gefnogi Bioamrywiaeth pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Ystyried cyfleoedd sydd ar gael i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli ymylon ffordd a glaswelltiroedd amwynderau trwy bolisi torri gwair y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac yn dilyn cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, cynhaliwyd gweithdy i bob aelod ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023 er mwyn dysgu mwy am reoli glaswelltiroedd ymylon ffordd ac amwynderau, blodau gwyllt a bioamrywiaeth.  Ceisiodd Aelodau ddysgu mwy am ddefnyddio plaladdwyr a deall polisïau presennol, a chamau a gymerwyd hyd yn hyn a’r cyfleoedd sydd ar gael.  Roedd y gweithdy yn ddigwyddiad portffolio ar y cyd, a gafodd ei hwyluso gan swyddogion o bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi a phortffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth.

           

O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a hybu bioamrywiaeth. Gallai torri gwair ymylon ffordd a glaswelltiroedd amwynderau mewn ffordd ystyrlon helpu i fodloni’r ddyletswydd hwnnw.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol.  Yn ychwanegol, fel portffolio, roedd Strydwedd a Thrafnidiaeth yn adrodd yn rheolaidd am berfformiad blynyddol y gwasanaeth torri gwair i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi at ddibenion sicrwydd.  Felly roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad i’r Cabinet am berfformiad y gwasanaeth yn ystod 2022.

 

Canmolodd y Cynghorydd Healey y berthynas weithio rhwng y Swyddog Bioamrywiaeth a staff yng Ngwasanaethau Stryd er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a bod cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli gwair ar ymylon ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder yn cael eu hystyried; a

 

(b)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a chefnogi’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.