Mater - cyfarfodydd
Adrodd yn ôl ar ôl Galw Penderfyniad Rhif 4056 - Adolygiad Strategaeth Wastraff
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 144)
144 Adrodd yn ôl ar ôl Galw Penderfyniad Rhif 4056 - Adolygiad Strategaeth Wastraff PDF 111 KB
Pwrpas: I adrodd yn ôl o'r Galw i Mewn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Report back from the Call In of Decision No. 4056 - Waste Strategy Review, eitem 144 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Report back from the Call In of Decision No. 4056 - Waste Strategy Review, eitem 144 PDF 111 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adrodd yn ôl ar ôl Galw Penderfyniad Rhif 4056 - Adolygiad Strategaeth Wastraff
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd bod penderfyniad y Cabinet - Cofnod Rhif 4056 “Adolygiad o Strategaeth Gwastraff” wedi cael ei alw i mewn.
Cynhaliwyd y cyfarfod galw i mewn o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi ar 1 Chwefror 2023.
Ar ôl ystyried y penderfyniad, dewisodd y Pwyllgor Ddewis 3, i’w gyfeirio yn ôl i’r person neu gorff sy’n gwneud y penderfyniad (h.y. y Cabinet) i’w ystyried. Roedd y Cabinet wedi ystyried y penderfyniad a gymerwyd a’r sylwadau a wnaed, a’r penderfyniad a wnaed oedd am bedwar mis (Mawrth, Ebrill, Mai a Mehefin 2023) byddai gwastraff yn cael ei fonitro ac os oedd yna dystiolaeth o ostyngiad sylweddol mewn deunydd y gellir ei ailgylchu oedd yn cael ei roi yn y biniau du, yna byddai’r Cabinet yn edrych eto ar y cynnig am gasgliadau bob tair wythnos.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) bod dal angen cyrraedd y targedau ailgylchu er mwyn osgoi’r perygl y gallai’r Cyngor gael dirwy sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Fe ychwanegodd bod modd ailgylchu 50% o’r hyn oedd yn cael ei roi yn y biniau du, ac roedd 27% ohono’n wastraff bwyd. Fe fyddai angen gwelliant sylweddol mewn ailgylchu gan breswylwyr er mwyn cyrraedd y targed o 64% yn 2022-2023 a 70% erbyn 2024-25, ochr yn ochr â gorfodaeth gan y Cyngor a chynnal ymgyrchoedd addysgiadol.
Cefnogodd y Cynghorydd Healey y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Hughes.
Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint a gysylltodd â’r Cyngor am wastraff ac ailgylchu. Petai’r targedau ailgylchu'n gwella, nid oedd y Cabinet awydd cyflwyno casgliadau bob tair wythnos ac fe anogodd preswylwyr Sir y Fflint i helpu i wella’r cyfraddau ailgylchu. Os oedd y biniau du yn orlawn, fe fyddai’n nodi bod deunydd y gellir ei ailgylchu y tu mewn, a byddai gorfodaeth yn cael ei ystyried.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi penderfyniad cyfarfod galw i mewn Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi o ran Cofnod Rhif 4056 Adolygiad o Strategaeth Gwastraff;
(b) Bod cyfnod pellach o fonitro dros y pedwar mis nesaf, i weld a ellir gwella cyfraddau ailgylchu drwy addysgu a gorfodaeth, yn cael ei gymeradwyo; a
(c) Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2023.