Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cyfarfod: 22/03/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 68)
68 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 92 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Internal Audit Progress Report, eitem 68 PDF 937 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.
Ers yr adroddiad diwethaf, roedd yna ostyngiad bach wedi bod mewn camau gweithredu hwyr a chafwyd diweddariad ar gamau gweithredu pellach a oedd wedi eu cau ers cyhoeddi’r adroddiad. O ran camau gweithredu hwyr uchel a chanolig yn ymwneud â digartrefedd, byddai diweddariad gan y gwasanaeth yn cael ei rannu ac ynddo roedd ymrwymiad wedi ei roi i gau’r holl gamau gweithredu erbyn Medi 2023 pan fyddai adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Nodwyd cais y Cynghorydd Bernie Attridge am ddiweddariad ar gamau gweithredu sy’n weddill ar yr archwiliad o Hyfforddiant Statudol mewn Gwasanaethau Stryd a Chludiant.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ar gontractau gyda chyflenwyr mawr, rhoddwyd eglurhad ar gydymffurfiaeth gyda Rheolau’r Weithdrefn Gontractau, gydag unrhyw faterion a godir fel rhan o waith archwilio. Byddai diweddariad ar wahân yn cael ei rannu ar gamau gweithredu yn ymwneud ag Ynni Domestig ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru gan gynnwys y balans sy’n ddyledus i’r Cyngor. Rhoddwyd diweddariad ar lafar ar gamau gweithredu yn ymwneud â’r Adolygiad Thematig Ysgolion a fyddai’n cael ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Cynnydd nesaf. Hefyd rhoddwyd eglurhad ar ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â newidiadau i amserlenni, argaeledd staff a materion y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth.
Ar yr adroddiad Oren Coch ar Adeileddau Priffyrdd, eglurwyd o ganlyniad i wahoddiad ar fyr rybudd, nad oedd y Prif Swyddog yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi rhoi sicrwydd fod modd cyflawni erbyn y dyddiadau ac y byddai adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Ebrill. Roedd awgrym y Cynghorydd Glyn Banks y dylai slotiau cyfarfod y Pwyllgor gael eu cadw’n rhydd yn nyddiaduron Prif Swyddogion yn cael ei ystyried gan y Rheolwr Archwilio Mewnol a atgoffodd y Pwyllgor o’r broses a gytunwyd mewn perthynas ag adroddiadau coch. Aeth ymlaen i gynghori y byddai unrhyw gamau gweithredu hwyr ar adroddiadau sicrwydd cyfyngedig nawr yn cael eu codi gydag Arweinydd y Cyngor i drafod gyda’r gwasanaeth perthnasol.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i eiliwyd gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.