Mater - cyfarfodydd
Gwasanaethau Darparwyr Sir y Fflint – Materion Rheoleiddio, Effeithiolrwydd y Gwasanaeth a Datblygiad
Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 52)
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar rôl yr unigolyn cyfrifol a pherfformiad y gwasanaethau rheoledig mewnol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Flintshire Provider Services – Regulatory Issues, Service Effectiveness and Development, eitem 52 PDF 905 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gwasanaethau Darparwyr Sir y Fflint - Materion Rheoleiddio, Effeithiolrwydd y Gwasanaeth a Datblygiad
Cofnodion:
Bu i’r Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig gyflwyno’r adroddiad fel rhan o’i rôl fel Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint ac egluro mai ei swydd oedd sicrhau ansawdd y gofal a ddarperir i wasanaethau, i fodloni’r canllawiau statudol fel y nodir yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA). Mae’n rhaid i bob maes gwasanaeth ddarparu ei ddatganiad o ddiben ei hun ac maent yn cael eu harolygu a’u monitro yn flynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Y gwasanaethau a gafodd eu cynnwys oedd:-
· Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n – Marleyfield House, Llys Gwenffrwd a Croes Atti
· Tai Gofal Ychwanegol – Llys Eleanor, Llys Jasmine, Llys Raddington, Plar Yr Ywen
· Cefnogaeth Gymunedol i Bobl H?n – ardaloedd Treffynnon, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug
· Seibiant byrdymor i bobl ag anableddau dysgu – Hafod a Woodlee
· Byw â Chymorth – 17 cartref ar draws Sir y Fflint
· Gwasanaethau Plant T? Nyth, Park Avenue a’r Cartrefi Gr?p bach
Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig bod cyfarfodydd preswylwyr a thenantiaid wedi’u cynnal ond mewn arolygiad diweddar gofynnodd bod Rheolwyr yn cynyddu presenoldeb er mwyn cael mynediad at groestoriad ehangach o bobl, gan fod yr un 5-6 o bobl yn mynychu bob amser. Bellach roedd staff arlwyo wedi’u cynnwys o ganlyniad i’r gwaith yr oeddent wedi’i wneud i wella’r ansawdd. Bu iddo gadarnhau bod y cynnydd cyfartalog o £80 yr wythnos i’r costau gwasanaeth yn gywir oherwydd y cynnydd mewn costau byw a’i fod yn cael trafodaethau gyda Clwyd Alyn a Wales & West ac wedi gofyn i’r cyfraddau gael eu lleihau wrth i’r argyfwng costau byw newid. Dywedodd eu bod wedi ymgynghori gyda’r holl denantiaid cyn y cynnydd a bod y Tîm Asesiad Ariannol wedi bod i weld y tenantiaid i wneud yn si?r eu bod yn derbyn y cymorth ariannol cywir. Ychwanegodd bod cost rhandy un ystafell wely safonol wedi cynyddu o £240 i £320 yr wythnos ac y byddai’n costio ychydig yn fwy am randy 2 ystafell wely pan gwestiynwyd ymhellach gan y Cynghorydd Wren.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi gofynion rôl yr Unigolyn Cyfrifol.