Mater - cyfarfodydd
Sut i ddod yn Feicro-Ofalwr
Cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 50)
50 Sut i ddod yn Feicro-Ofalwr PDF 110 KB
Pwrpas: Codi ymwybyddiaeth o fenter Meicro-Ofal.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu gefndir i’r adroddiad gan nodi, yn dilyn cwblhau’r prosiect peilot yn llwyddiannus - a ariannwyd trwy’r Economi Sylfaenol, Cadwyn Clwyd a Sir y Fflint i gefnogi mentrau bach neu fasnachwyr unigol i ddarparu gofal personol uniongyrchol a gwasanaeth lles ehangach yn Sir y Fflint - cafwyd cyllid ychwanegol trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i alluogi datblygu Meicro-Ofal yn wasanaethau sefydledig y gellid eu cynnig.
Rhoddodd amlinelliad cryno o’r camau amrywiol ar sut i ddod yn Feicro-Ofalwr cyn cyflwyno’r Meicro-Ofalwr cyntaf a gomisiynwyd - Nat Swift i rannu ei brofiad o fod yn Feicro-Ofalwr. Eglurodd mai ei ffrind oedd wedi awgrymu ei fod yn dod yn Feicro-Ofalwr wrth ei helpu i ofalu am ei dad. Ar ôl cysylltu â Sir y Fflint, dechreuodd weithio fel Meicro-Ofalwr yn 2022 a gofynnwyd iddo a hoffai ddilyn y llwybr a Gomisiynwyd, gan nodi fod y mwyafrif o’i waith yn Sir y Fflint. Roedd ganddo tri chleient yn Wrecsam a oedd wedi’u comisiynu’n breifat a heb gael eu rhoi iddo drwy Gyngor Wrecsam yn wahanol i gleientiaid Sir y Fflint a oedd yn gyfuniad o gleientiaid preifat, cleientiaid a gomisiynwyd gan Sir y Fflint a chleientiaid taliadau uniongyrchol. Y gwahaniaeth rhwng Meicro-Ofalwr a gweithiwr Asiantaeth Gofal oedd yr amrywiaeth o gefnogaeth a allai Meicro-Ofalwr ei roi drwy gymryd mwy o ran ym mywydau’r cleientiaid a’u bod yn gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau, o ofal emosiynol a chorfforol i ofal domestig a chlercyddol.
Pan ofynnwyd gan y Cadeirydd am yr atgyfeiriadau, dywedodd wrth yr Aelodau ei fod un ai’n cael ei gomisiynu gan Sir y Fflint, yn derbyn argymhellion drwy GOGDdC neu fod pobl yn cysylltu ag ef ar ôl gwneud chwiliadau ar y rhyngrwyd ond roedd yn derbyn fwyfwy o argymhellion drwy atgyfeiriadau gan Feicro-Ofalwyr eraill.
Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Gladys Healey o ran diogelu, dywedodd fod yn rhaid i’r holl Feicro-Ofalwyr fynd drwy broses recriwtio a datblygu busnes a’i fod hefyd yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth fel aelod o NACAS (Cymdeithas Genedlaethol Gweithwyr Gofal a Chymorth). Rhoddodd Sir y Fflint a Wrecsam gyngor a chymorth hefyd ar bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau yr oedd wedi teilwra ei fusnes ei hun ohonynt. Yn nhermau diogelu, dywedodd fel Meicro-Ofalwr a gomisiynwyd, roedd yn rhaid iddo gael yswiriant indemniad proffesiynol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a oedd yn cael ei ariannu gan Sir y Fflint am hyd at chwe blynedd wrth i’w fusnes ddatblygu. Yn ogystal, roedd y broses hyfforddiant yn cynnwys agweddau amrywiol, e.e. gweithio ar eich pen eich hun, asesiadau risg, codi a symud yn gorfforol, hylendid bwyd ac ati, a oedd yn bwydo i mewn i bolisïau a oedd gan bob Meicro-Ofalwr. Roedd gan Sir y Fflint Raglen ar gyfer Monitro Ansawdd hefyd lle’r oedd yn cael ei asesu yn barhaus. Roedd yn cadw cofnod dyddiol o ddigwyddiadau ar gyfer pob cleient hefyd.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wrth yr Aelodau am ymgyrch ‘Indeed’ ym mis Ionawr ac ymgysylltiad gyda GOGDdC drwy eu ... view the full Cofnodion text for item 50