Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfarfod: 08/06/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 9)
9 Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 114 KB
Pwrpas: Aelodau i ddarllen Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol drafft a rhoi adborth ar y cynnwys drafft a ystyrir i’w gynnwys, sy’n cynnwys datblygiadau allweddol y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Services Annual Report, eitem 9 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol
Cofnodion:
Cyn cyflwyno'r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gydnabyddiaeth i Marianne Evans a Dawn Holt am ysgrifennu'r adroddiad a ddisgrifiodd yn ddeunydd pleserus, diddorol a chadarnhaol i’w ddarllen y cafodd ei ategu gan yr adborth a dderbyniwyd gan yr Aelodau.
Atgoffodd ef yr Aelodau bod yr adroddiad wedi’i lunio fel gofyniad statudol fel sydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r drafft gan ei fod yn bwriadu ei gyflwyno i’r Cabinet ar 20 Mehefin yn hytrach nag ar 18 Gorffennaf er mwyn caniatáu amser i’w gyhoeddi’n ddwyieithog.
Cyn agor i'r Aelodau am unrhyw sylwadau, dywedodd y Cadeirydd fod y strwythur a'r manylion yn galonogol iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod yr adroddiad cyntaf erioed y cafodd ei wneud 10 mlynedd yn ôl wedi'i anelu at y rheolydd yn ogystal â'r cyhoedd a oedd â gwahanol ofynion ond bod yr adroddiad hwn, a oedd wedi'i ysgrifennu'n dda iawn, wedi ymdrin â phopeth ac yr oedd wedi rhyfeddu faint o fentrau yr oedd wedi’u cyflwyno yn y cyfnod hwnnw.
Pwysleisiodd y Cynghorydd McGuill, pan ddaeth yn amser edrych ar y gyllideb, fod angen mwy o arian nag oedd ganddyn nhw ar y pryd gan fod yr arian yn cael ei wario ar y mentrau i gyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad drafft, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ni ar gyfer 2023/24.