Mater - cyfarfodydd
Cynllun Busnes NEWydd 2023/24
Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 165)
Cynllun Busnes NEWydd 2023/24
Pwrpas: Cyflwyno Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyf 2023/24 i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (165/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes NEWydd 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet ym mis Hydref 2021 wedi cytuno i ymestyn y Cytundeb Consesiwn Gwasanaethau gyda NEWydd o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2024.
Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yn unol â'r trefniant hwnnw, fod angen i NEWydd gynhyrchu Cynllun Busnes blynyddol, gan gynnwys cyllidebu a rhagolygon ariannol.
Roedd y Cynllun Busnes ynghlwm wrth yr adroddiad ac yn rhoi crynodeb o elfennau allweddol y Cynllun Busnes.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r risgiau strategol sy'n wynebu'r busnes a chadarnhau Cynllun Busnes 2023/24, sy'n cynnwys lliniaru'r risgiau a nodwyd.