Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Safonau Gwasanaethau Stryd 2022-23
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 141)
141 Adroddiad Safonau Gwasanaethau Stryd 2022-23 PDF 167 KB
Pwrpas: Adolygu’r safonau Gwasanaethau Stryd presennol ac ystyried cyfres newydd o fesurau a dangosyddion perfformiad sy’n cysylltu’n agosach at Gynllun y Cyngor, polisïau a chynllun busnes portffolio.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Streetscene Standards Review 2022-23, eitem 141 PDF 26 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Safonau Gwasanaethau Stryd 2022-23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod sawl gwasanaeth wedi cyfuno i greu portffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth yn 2012. Ar y pryd, cymeradwyodd y Cabinet set o Safonau Perfformiad Strydwedd oedd yn ffurfio sail ar gyfer adroddiad perfformiad chwarterol y portffolio newydd. Yna cafodd ei graffu’n ofalus gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Cabinet ar y pryd. Cafodd y Safonau Strydwedd eu hadolygu ddiwethaf yn 2019 ac ychydig iawn o newid a fu iddynt ers iddynt gael eu llunio.
Amlinellodd yr adroddiad y bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes y portffolio. Roedd yr awdurdod eisiau sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr yr oedd yn eu gwasanaethu, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.
Byddai ansicrwydd setliadau ariannol blynyddoedd i ddod, y gofynion sy’n newid o ran yr agenda amgylcheddol a newid hinsawdd a’r angen i ddarparu data perfformiad clir yn dylanwadu ar y ffordd y mae Strydwedd a Thrafnidiaeth yn darparu gwasanaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod. Fel gwasanaeth sydd yn cyffwrdd bywydau pobl o ddydd i ddydd, roedd hi’n hollbwysig arddangos gwerth gwirioneddol i bobl Sir y Fflint, ond hefyd i fesur perfformiad mewn modd sydd yn ystyrlon ac yn galluogi gwelliant parhaus.
Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) mai pwrpas yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan y Cabinet i Strydwedd a Thrafnidiaeth i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hynny o blaid creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle penderfynwyd y byddai Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu’r Safonau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau Strydwedd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn erbyn goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol. Bydd adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau yn cael ei gyflwyno; a
(b) Bod argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi, sef bod Gr?p Tasg a Gorffen Aelodau yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu Safonau Strydwedd, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn amlinellu manylion y broses adolygu unrhyw gasgliadau ac argymhellion dilynol, yn cael eu cefnogi.