Mater - cyfarfodydd
Datganiad Polisiau Tal Ar Gyfer 2023/24
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 89)
89 Datganiad Polisiau Tal Ar Gyfer 2023/24 PDF 93 KB
Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r unfed ar ddeg Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Pay Policy Statement 2023/24, eitem 89 PDF 2 MB
- Enc. 2 - Pay tables, eitem 89 PDF 182 KB
- Enc. 3 - LGPS Discretionary Pension Statement, eitem 89 PDF 97 KB
- Enc. 4 - Equal Pay Audit 2022, eitem 89 PDF 947 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Polisiau Tal Ar Gyfer 2023/24
Cofnodion:
Gofynnwyd i'r aelodau gymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 er mwyn ei gyhoeddi cyn y terfyn amser statudol. Hwn oedd yr unfed datganiad blynyddol ar ddeg i’r Cyngor ei gyhoeddi ac yr oedd yn adlewyrchu’r trefniadau presennol o ran tâl, ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn ogystal ag adran newydd yn cadarnhau sefyllfa’r Cyngor ynghylch taliadau i unigolion sy’n gadael.
Cyn ei gyhoeddi, byddai'r gwall teipograffyddol ar adran 6(iv) o'r Datganiad Polisi yn ymwneud â chyflog sylfaenol Pwynt 3 y Prif Swyddog yn cael ei gywiro.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Billy Mullin.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl drafft sydd wedi’i atodi ar gyfer 2023/24; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddatganiad Polisi Tâl 2023/24 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.