Mater - cyfarfodydd
Funding, Flight-Path and Risk Management Framework
Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 43)
43 Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid PDF 107 KB
Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gydag Aelodau’r Pwyllgor am y sefyllfa ariannu, a gweithrediad y Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid gan gynnwys argymell diweddariadau i’r Cynllun Dirprwyo sy’n gysylltiedig â Fframwaith Rheoli Risg y Gronfa i’w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Funding, Flight-Path and Risk Management Framework, eitem 43 PDF 475 KB
- Enc. 2 for Funding, Flight-Path and Risk Management Framework, eitem 43 PDF 173 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Fframwaith Rheoli Risg, Llwybr Hedfan a Chyllid
Cofnodion:
Aeth Mr Middleman drwy’r adroddiad hwn gyda’r Pwyllgor, gan wneud y pwyntiau allweddol canlynol:
- Yr oedd y llwybr hedfan a’r fframwaith cyffredinol yn gweithio fel y disgwylid yn dilyn y cyfnod anwadal.
- Gwnaed nifer o newidiadau i gynnal digon o hylifedd er mwyn i’r fframwaith weithio fel y disgwyl.
- Yr oedd lefel yr ariannu ar y dyddiad prisio, 31 Mawrth 2022, yn 105%, a bu gostyngiadau bychain dros y flwyddyn ond erbyn diwedd mis Rhagfyr yr oedd hyn wedi dychwelyd i 105%, ac arhosodd o gwmpas y ffigwr hwnnw.
Dywedodd Mr Middleman, ar adegau o anwadalrwydd, yr oedd rhaid gwneud unrhyw newidiadau i ymateb i newidiadau yn y farchnad yn gyflym. Arweiniodd hyn at y newidiadau a awgrymwyd i egluro dirprwyaethau i Bennaeth y Gronfa yn atodiad yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn ystyried cynnwys yr adroddiad.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diweddariadau arfaethedig i Gynllun Dirprwyo’r Gronfa.