Mater - cyfarfodydd
Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary
Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 42)
42 Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr PDF 106 KB
Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad y Gronfa a Rheolwyr y Gronfa.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary, eitem 42 PDF 1001 KB
- Enc. 2 for Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary, eitem 42 PDF 1 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr
Cofnodion:
Cafwyd crynodeb o amgylchedd a sefyllfa’r farchnad dros y flwyddyn ddiwethaf gan Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa, Mr Dickson, ac amlygodd ffactorau a fu’n effeithio ar farchnadoedd dros y flwyddyn ddiwethaf a’r chwarter diwethaf. Yna, eglurodd Mr Dickson sut oedd hyn wedi effeithio ar berfformiad y Gronfa:
- Dros y chwarter diwethaf (30 Medi i 31 Rhagfyr) yr oedd asedau’n wastad.
- Dros y flwyddyn yr oedd perfformiad y Gronfa wedi gostwng yn gyffredinol o 10.6%, gyda llai o enillion yn enwedig mewn ecwitïau a chredyd aml-ased. Cynhyrchodd Marchnadoedd Preifat enillion cadarnhaol ar gyfer y Gronfa, yn enwedig gyda Sterling yn gwanhau, fel ag y gwnaeth y Dyraniad Asedau Tactegol a’r cronfeydd mantoli.
- Yr oedd yr olwg tair blynedd – sy’n bwysig ar gyfer dull gweithredu hirdymor y Gronfa – yn parhau i ddangos enillion cadarnhaol.
- Rhoddodd Mr Dickson y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am berfformiad ers dechrau’r flwyddyn galendr pan fo’r marchnadoedd wedi bod yn gadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
Nodwyd perfformiad y Gronfa dros gyfnodau hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2022 gan y Pwyllgor, ynghyd â diweddariad y Farchnad a’r Economi, a oedd i bob pwrpas yn egluro’r sefyllfa.