Mater - cyfarfodydd
Asset Pooling Update
Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 41)
41 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyfuno Asedau PDF 111 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Asset Pooling Update, eitem 41 PDF 140 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyfuno Asedau
Cofnodion:
Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf am gronni gan Mr Latham, Pennaeth y Gronfa Bensiynau, ac amlygodd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Ysgrifennodd y Gronfa’n wreiddiol i PPC i ofyn am Gronfa Ecwiti Cynaliadwy Gweithredol, a byddai pob un o’r 8 cronfa yng Nghymru bellach yn gwneud buddsoddiadau i hwn. Disgwylid i’r gronfa ddod yn weithredol ym mis Ebrill 2023, gan olygu na fyddai effaith dyraniad 15% arfaethedig y Gronfa’n dod i rym tan ar ôl dyddiad adrodd y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ym mis Mawrth 2023. Felly, nid adroddid arno tan fis Medi 2024, yn seiliedig ar y data fel ag y bydd ym mis Mawrth 2024.
- Ni fu diweddariad yn ymwneud â materion Link Fund Solutions Ltd ers trafodaeth ddiwethaf y Pwyllgor. Pe bai’r Awdurdod Cynnal yn darparu diweddariad pellach, byddai’r wybodaeth hon yn cael ei hanfon ymlaen at y Pwyllgor.
- Yr oedd PPC yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gaffael contract y gweithredwr. Bydd Mr Latham a Mrs Fielder yn mynd i ddigwyddiadau ymgysylltu gyda phartïon sydd â diddordeb yng Nghaerdydd, ynghyd â chyfarfod rheolwyr eiddo PPC posibl.
- Parthed Marchnadoedd Preifat, byddai’r ymrwymiadau ar gyfer Credyd Preifat, Ecwiti Preifat ac Isadeiledd yn barod i fynd y flwyddyn nesaf. Yr oedd ystyriaethau’n cael eu gwneud yngl?n â sut i reoli cost hyn. Y bwriad oedd defnyddio Mercer ar gyfer y Portffolio Effaith, hyd nes y bydd rhywbeth cyfwerth ar gael o fewn PPC.
- Cynhelid hyfforddiant PPC ar 27 Chwefror, yn cwmpasu llawer o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, ac yr oedd gwahoddiad i holl aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd.
Parthed y polisi benthyca stoc, gwnaeth Mr Hibbert sylw am yr eglurhad bod PPC yn gallu benthyca hyd at 95% o unrhyw stoc, am ffi. Gofynnodd Mr Hibbert a oes unrhyw fwriad i atal benthyca stoc dros y cyfnod pleidleisio fel y gellid eu hadalw. Nododd hefyd fod swm y cyfranddaliadau a bleidleisiwyd yn adroddiad Robeco yn ymddangos yn eithriadol o isel, a gofynnodd am eglurhad am hyn.
Parthed ail gwestiwn Mr Hibbert yngl?n â swm y cyfranddaliadau a bleidleisiwyd, cadarnhaodd Mr Latham y byddai’n ymchwilio i hyn. Yngl?n â’r cwestiwn am fenthyca stoc, eglurodd Mr Latham fod cynrychiolwyr y Gronfa wedi bod mewn sesiwn hyfforddi ar fenthyca stoc, a oedd yn agored i aelodau’r Cydbwyllgor Llywodraethu’n unig. Disgwyliai y byddai hyn yn arwain at gyflwyno adroddiad i Gydbwyllgor Llywodraethu PPC ar fenthyca stoc, yn cwmpasu’r pwyntiau a godwyd gan Mr Hibbert yngl?n ag adalw stoc at ddibenion pleidleisio. Yr oedd Mr Latham yn tybio mai safbwynt y Gronfa fyddai i adalw’r stociau hynny er mwyn gallu pleidleisio arnynt, ond gofynnodd i’r Cadeirydd, a oedd hefyd yn bresennol yn yr hyfforddiant, i gadarnhau hyn, ac fe wnaeth.
Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn falch bod cynnydd yn cael ei wneud ar y mater hwn. Gofynnodd Mr Hibbert yngl?n â chytundeb blaenorol y Pwyllgor i ysgrifennu at Robeco yngl?n â hwy’n pleidleisio ar gwmnïau yn ... view the full Cofnodion text for item 41