Mater - cyfarfodydd
Investment and Funding Update
Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 40)
40 Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu PDF 151 KB
Darparu diweddariad i Aelodau'r Pwyllgor ar faterion buddsoddi ac ariannol Cronfa Bensiynau Clwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 129 KB
- Enc. 2 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 3 MB
- Enc. 3 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 120 KB
- Enc. 4 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 91 KB
- Enc. 5 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 111 KB
- Enc. 6 for Investment and Funding Update, eitem 40 PDF 172 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar Fuddsoddi ac Ariannu
Cofnodion:
Rhoddodd Mr Hughes y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Fuddsoddi ac Ariannu, gan amlygu’r canlynol:
- Mewn perthynas â diweddariad y cynllun busnes, yr oedd pob un namyn un o’r tasgau allweddol a amlygwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor wedi eu cwblhau – manylion yn 1.01.
- Cyhoeddodd Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC) ymgynghoriad yn ddiweddar yn cynnig newidiadau i broses rheoli costau’r Bwrdd Cynghori Cynllun – crynodeb yn 1.03. Ni ddisgwylid i hyn gael unrhyw effaith uniongyrchol ar y Gronfa.
- Cydnabuwyd y Gronfa yn Gronfa Bensiynau y Flwyddyn yng Ngwobrau Effaith Environmental Finance.
- Amlygodd Mr Hughes adroddiad gan Robeco ar effaith gymdeithasol Deallusrwydd Artiffisial, ymysg astudiaethau eraill.
- Mae’r Gronfa’n parhau i nodi cyfleoedd cynaliadwy, ac mae wedi gwneud dau ymrwymiad yn ddiweddar. Sef:
o £15 miliwn i Newcore (Cronfa V), rheolwr eiddo tirol yn y DU, yn arbenigo mewn isadeiledd cymdeithasol.
o £17 miliwn (tua $20 miliwn) i Sandbrook (Cronfa I), cronfa isadeiledd hinsawdd cyntaf rheolwr o UDA.
- Yr oedd y Gronfa wedi llenwi swydd wag Cynorthwyydd Gweinyddol Llywodraethu’n ddiweddar, fodd bynnag, y mae dwy swydd wag yn parhau i fod yn y tîm Cyllid. Y flaenoriaeth oedd llenwi swydd y Prif Gyfrifydd, a oedd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi diweddariad Buddsoddi ac Ariannu.