Mater - cyfarfodydd

Investment Strategy Review and Statement

Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 38)

38 Adolygiad a Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi pdf icon PDF 165 KB

Darparu argymhellion i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn yr adolygiad o’r Strategaeth Fuddsoddi, a Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi arfaethedig i'w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Harkin o Mercer yr argymhellion yn dilyn Adolygiad y Strategaeth Fuddsoddi, a Datganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi, gan bwysleisio’r canlynol:

 

-       Yr oedd proses adolygu Datganiad y Strategaeth Fuddsoddi wedi ei hoedi rywfaint oherwydd yr effaith a gafodd cyllideb fechan y Canghellor blaenorol ar farchnad Fondiau Llywodraeth y DU a ffactorau eraill sydd wedi dadsefydlogi marchnad y DU.

-       Effaith cronni a thrawsnewidiad y Gronfa i ddefnyddio cyfalaf drwy PPC.

-       Themâu cyfredol gan gynnwys yr argyfwng ynni, digwyddiadau geowleidyddol, chwyddiant, a’r cyfle i elwa o drawsnewidiadau.

-       Rôl y dosbarthiadau asedau cyfredol, gan gynnwys y Fframwaith Rheoli Risg ac Arian Parod, sydd â rôl gefndirol bwysig o ran mantoli risgiau ar gyfer y Gronfa.

-       Yr oedd enillion disgwyliedig y Gronfa yn fwy na’r gyfradd ostyngiad yr oedd ei hangen gan Actiwari’r Gronfa.

 

            Eglurodd Mr Harkin y rhesymau dros y mân newidiadau i’r dyraniad asedau, a oedd yn cynnwys:

-       Lleihau cydran ecwitïau’r marchnadoedd sy'n datblygu o 10% i 5%. Byddai’r 5% dros ben yn cael ei symud i Ecwitïau Marchnadoedd Datblygedig, a fyddai yn y pen draw yn cael ei fuddsoddi yng Nghronfa Gynaliadwy Ecwiti Byd-eang PPC.

-       Lleihau dyraniad y Gronfa Fantoli o 7% i 5%. Dyrennid y 2% dros ben i’r Gronfa Leol / Effaith.  Ychwanegodd Mr Dickson y byddai’r dyraniad Lleol / Effaith 6% hwn – yn ogystal ag adlewyrchu athroniaeth gynaliadwy ac athroniaeth effaith y Gronfa – yn cyd-fynd ac yn mynd y tu hwnt i gynlluniau disgwyliedig y Llywodraeth i gyflwyno’r orfodaeth i leoli 5% o asedau’n lleol – gyda ‘lleol’ yn golygu o fewn y DU.

 

            Dywedodd Mr Hibbert – yngl?n â’r buddsoddiad Ffyniant Bro ac Effaith – y bydd anhawster am fod effaith tai fforddiadwy / cymdeithasol yn cael ei ganolbwyntio yn y de-ddwyrain, felly byddai diffyg cyfleoedd buddsoddi wedi eu canoli mewn lleoedd eraill yn y DU.

            Gofynnodd Mr Hibbert hefyd i Gylch Gorchwyl Portffolio Dyraniad Tactegol, y cyfeirir ato ar dudalen 144, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w adolygu. Cytunodd Mr Harkin, a nododd y bydd yn cael ei adolygu yn unol â’r gwaith arfaethedig i ymgorffori fframwaith buddsoddi cyfrifol newydd i’r Dyraniad Asedau Tactegol.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi ar dudalen 155, a gofynnodd am ychwanegu cyfeiriad at gynrychiolydd aelodau cynllun heb bleidlais ar y Cydbwyllgor Llywodraethu. Cytunodd Mrs McWilliam y byddai hyn yn ychwanegiad defnyddiol. Cyfeiriodd Mr Hibbert hefyd at dudalen 160, sy’n datgan mai “Ymgysylltu yw’r dull gorau o alluogi’r newid…”, ac eto amlygodd yr angen am eglurder yngl?n â phryd y gwneid penderfyniad am ddadfuddsoddi.

            Mewn perthynas â’r argymhellion, dywedodd y Cynghorydd Swash ei fod wedi rhoi ei farn o’r blaen bod dyddiad targed sero net y Gronfa, sef 2045, yn rhy hwyr. Pwysleisiodd fod Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog wedi cytuno ar 2030 fel targed. Cyfeiriodd y Cynghorydd Swash at Ddatganiad arfaethedig y Strategaeth Fuddsoddi (tudalen 161), gan amlygu targedau allyriadau carbon allweddol o fewn y Portffolio Ecwitïau Rhestredig. Cynigiodd y Cynghorydd Swash ddiwygiad i’r paragraff  ...  view the full Cofnodion text for item 38