Mater - cyfarfodydd

Climate Change Analysis Update

Cyfarfod: 15/02/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 37)

37 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddadansoddi Newid Hinsawdd pdf icon PDF 193 KB

Darparu Adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD) arfaethedig a’r Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd i Aelodau’r Pwyllgor i’w nodi a darparu sylwadau arnynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd fod y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd a dadansoddeg hinsawdd wedi eu trafod yn fanwl yn y sesiwn Hyfforddiant Hanfodol ddiweddar a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, ac, o ystyried bod yr adroddiad ar gyfer nodi’n unig, gofynnodd am gyfyngu cwestiynau / sylwadau i eglurhad o wybodaeth yn yr adroddiad a meysydd dealltwriaeth.

             Crynhowyd prif bwyntiau Adroddiad Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd agoriadol arfaethedig y Gronfa gan Mr Gaston o Mercer, a’r dadansoddiad o adnodd Dadansoddiad ar gyfer Trawsnewid Hinsawdd. Dywedodd fod dull gweithredu’r Gronfa mewn perthynas â newid hinsawdd wedi ei ddogfennu’n dda yn Strategaeth Fuddsoddi’r Gronfa o ran credoau, prosesau a monitro ôl troed carbon, ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn datrysiadau buddsoddi sy’n ymwybodol o’r hinsawdd. Y mae ymgynghoriad wedi bod ar adroddiadau’r Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond nid yw’r gofynion wedi eu cwblhau eto. Mae’r Gronfa wedi llunio ei hadroddiad cyntaf flwyddyn yn gynnar, gyda’r bwriad o fireinio’r dull gweithredu a’i wneud yn unol â rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pan fyddant wedi eu gwneud.

            Parthed adroddiad y Tasglu ar gyfer Datgeliadau Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd, pwysleisiodd Mr Gaston y canlynol:

-       Mae adroddiadau’r Tasglu wedi eu hanelu at gwmnïau, rheolwyr asedau a pherchnogion asedau (gan gynnwys cronfeydd pensiynau). Yr oedd y Gronfa’n ystyried hyn fel fframwaith arferion gorau, gan annog datgeliadau cywir, llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau da parthed newid hinsawdd, ac annog safoni ledled y farchnad i ganiatáu i fuddsoddwyr nodi, asesu a rheoli’r risgiau a chyfleoedd.

-       Y pedwar piler sy’n cynnal y fframwaith yw Llywodraethu, Strategaeth, Rheoli Risg, a Metrigau a Thargedau. Strwythurwyd yr adroddiad drafft ar y seiliau hyn.

            Aeth Mr Gaston yn ei flaen i roi crynodeb o’r pedwar piler fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

            Dywedodd Mr Hibbert nad oedd yr asesiad a ddarparwyd yn cynnwys Dyraniad Asedau Tactegol y Gronfa. Nododd fod asesiad blaenorol wedi dangos bod gan y portffolio Tactegol ddwysedd carbon uwch am bob punt a fuddsoddir na’r mwyafrif o ddosbarthiadau asedau eraill, os nad y cyfan. Gofynnodd Mr Hibbert pam yr hepgorwyd y dyraniad hwn o’r asesiad presennol. Eglurodd Mr Gaston fod y Dyraniad Asedau Tactegol wedi ei gynnwys yn yr asesiad o fewn gwahanol fetrigau yn unol â faint oedd ar gael, a nodwyd y rhain yn yr atodiadau. Yr oedd y canlyniadau hynny’n dangos bod gan nifer o’r daliadau hynny ddwysedd carbon uwch na gweddill y portffolio. Nid yw’r Gronfa wedi gosod canllawiau a thargedau ffurfiol yngl?n â’r daliadau hynny eto, a nodwyd hyn fel cam nesaf o ran ehangu’r gwaith o osod targedau y tu hwnt i’r Ecwitïau Rhestredig i’r portffolio ehangach.

            Cyfeiriodd Mr Hibbert at ddatganiad ar dudalen 37, “Mae gan y Gronfa ymrwymiad i arfer ei hawliau perchnogaeth ynghlwm wrth ei buddsoddiadau”, a gofynnodd pwy oedd yn ymdrin â hyn mewn perthynas â stociau a rheolwyr cronfa yn y Dyraniad Asedau Tactegol. Eglurodd Mr Gaston fod  ...  view the full Cofnodion text for item 37