Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 137)
137 Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22 PDF 109 KB
Pwrpas: Cyflwyno adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Strategic Equality Plan Annual Report 2021/22, eitem 137 PDF 810 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd ym mis Ebrill 2020, gan gyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Nod yr amcanion cydraddoldeb oedd mynd i’r afael â’r materion mwyaf sylweddol a meysydd o anghydraddoldeb y mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol) yn eu hwynebu.
Dywedodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru, i lunio adroddiad blynyddol a ddylai amlinellu cynnydd gyda Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chyflawni'r amcanion cydraddoldeb, a’i fod yn cael ei gyhoeddi ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Roedd adroddiad blynyddol y Cyngor yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2021/22. Cafodd y Cynllun ei atodi i’r adroddiad, gan nodi’r cyflawniadau a’r meysydd i’w gwella.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn adroddiad pwysig ac eang, gyda gwybodaeth am y gwaith cadarnhaol y mae’r Cyngor yn ei wneud, a beth oedd yn cael ei wneud yn gydweithredol i wella pethau i bobl yn ein cymunedau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r amcanion statudol mewn perthynas â chydraddoldeb; a
(b) Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021/2022, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.