Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 82)
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023.
13 Rhagfyr 2022
Cywirdeb - cywiro’r gwall sillafu yn enw’r Cynghorydd Collett.
Materion yn Codi - Cofnod rhif 57: Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor - byddai ymateb i'r cwestiynau a gododd y Cynghorydd Mike Peers yn y paragraff olaf ond un yn cael ei ddosbarthu.
24 Ionawr 2023
Cywirdeb - Cofnod rhif 68: Rhaglen Gyfalaf 2023/24-2025/26 - mewnosod yr esboniad llawn a roddodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Peers o ran ariannu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion h?n.
Cywirdeb - Cofnod rhif 76: Rhybudd o Gynnig - cofnodi bod cynnig y Cynghorydd Lloyd wedi’i eilio gan y Cynghorydd Shallcross.
Materion yn Codi - Cofnod rhif 75: Amseroedd ac Amserlen Cyfarfodydd y Cyngor - dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod dechrau cyfarfodydd y Cyngor Sir am 1pm fel yr awgrymwyd yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith yn ymwneud â Dyddiadur y Cyfarfodydd ar gyfer 2023/24, ynghyd â'r cais i foreau’r dyddiadau hynny gael eu cadw'n rhydd pan fo modd.
Ar sail hynny, cafodd y ddwy set o gofnodion eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y gwelliannau, cymeradwyo cofnodion 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.