Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2023-28

Cyfarfod: 20/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 95)

95 Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles wedi’u hadnewyddu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28, a oedd yn adlewyrchu golwg hirdymor ar adferiad, prosiectau ac uchelgeisiau dros y cyfnod.  Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei ystyried gan bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 a’i fesurau a thargedau priodol, cyn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

 

O dan Amgylcheddau Dysgu, tynnodd y Cynghorydd Bill Crease sylw at ddatblygu strategaeth moderneiddio ysgolion o fewn ardal Saltney erbyn mis Mawrth 2024.  Cyfeiriodd at gynlluniau gwaith blaenorol yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant nad oedd wedi’u datblygu oherwydd materion yngl?n â’r safle a nododd yr angen brys i ddatblygu cynigion pellach i wella’r amodau yn yr ysgol. 

 

Nododd y Prif Weithredwr bwynt penodol o ran cyflwr y to gan atgoffa’r Pwyllgor bod gan yr ysgol y dewis i ddefnyddio ei gyllidebau dirprwyedig i wneud gwaith atgyweirio cyn i fân atgyweiriadau fynd yn rhai sylweddol sydd angen ymyrraeth gan yr AALl.   Ar y mater penodol yngl?n â’r strategaeth moderneiddio ysgolion, ac yn fwy penodol Ysgol Uwchradd Dewi Sant Saltney, cytunodd y Prif Weithredwr i gyfeirio’r mater at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

O dan Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash pam nad oedd cyfeiriad at y ddeddfwriaeth sydd ar fin dod i rym ar gynghorau yn sefydlu eu cwmnïau bysiau trefol eu hunain wedi’i gynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer yr is-flaenoriaeth Dewisiadau Teithio Llesol a Chynaliadwy.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar y newidiadau wedi dod i law eto gan Lywodraeth Cymru.   Cytunodd y gellir cynnwys rhywfaint o gyfeiriadau ac y byddai’n cyfeirio’n ôl at y Prif Swyddog.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Cadeirydd i’w cyfeirio at y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol a’r Cabinet:

 

·         Adolygu’r rhesymeg dros symud yr is-flaenoriaethau ar Eiddo Gwag, Ynni Adnewyddadwy a Gwario Arian er Budd Sir y Fflint.

·         Tlodi Incwm - ystyried amserlenni’r camau gweithredu, yn enwedig pwynt bwled rhif 7 ar wneud y mwyaf o’r hawl i fudd-dal.

·         Tlodi Plant - egluro sut y gellir rheoli a mesur canlyniadau lle defnyddir cyllid grant allanol.

·         Cymorth Tai ac Atal Digartrefedd - os ellir ystyried bod y geiriad diwygiedig i sicrhau bod digartrefedd “yn brin, byr ac anghylchol” yn gostwng y targed hwnnw. 

·         Cyngor Di-garbon Net - ystyried a ddylid defnyddio’r geiriad ar gyfer camau gweithredu sy’n “ganolog i adferiad Covid-19” ar gyfer y Cynllun pum mlynedd hwn.

·         Addasu Newid Hinsawdd - ymholiad yngl?n â sut y gellir rheoli a mesur Rheoli Perygl Llifogydd os byddai’r gwasanaeth hwn yn cael ei roi i ddarparwr allanol a hefyd dim sôn am brosiectau ynni adnewyddadwy.

·         Cysylltedd Trafnidiaeth - anghytuno gyda’r ail bwynt bwled ar gefnogi’r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

·         Byw’n Annibynnol - eglurder o ran sut y gellir mesur bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

·         Diogelu - cwestiynu’r cyfnod hir i baratoi at weithredu’r gweithdrefnau Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd.  ...  view the full Cofnodion text for item 95