Mater - cyfarfodydd
Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28
Cyfarfod: 18/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 73)
73 Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 96 KB
Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Council Plan 2023-28 Part 1: An overview of the Well-being Objectives, Priorities, Sub priorities and their definitions, eitem 73 PDF 111 KB
- Appendix 2 - Council Plan 2023-28 Part 2: How achievements will be measured - Supporting Actions, Measures and Risks, eitem 73 PDF 148 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ar gynnwys drafft Cynllun y Cyngor 2023-28, Rhan 1 a Rhan 2, ar gyfer adolygiad ac adborth cyn ei gymeradwyo gan y Cabinet.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd. Roedd strwythur y Cynllun yn cynnwys saith blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar adfer, prosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd Cynllun y Cyngor 2023-28 yn cael ei gyhoeddi mewn fformat tebyg i’r blynyddoedd blaenorol, gan nodi camau gweithredu gyda’r nod o gyflawni’r amcanion lles, blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau. Bydd materion/risgiau cenedlaethol a rhanbarthol a all effeithio ar gyflawniad y blaenoriaethau hynny yn cael eu hadnabod a’u monitro. Bydd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn cael ei hystyried gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i sicrhau darpariaeth lawn o Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2023-28 a’i fesurau a’u targedau.
Wrth gyd-gyflwyno’r adroddiad, gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) sylw ar strategaethau hirdymor, dyheadau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a phwysleisiodd fod y Cynllun yn cymryd golwg hirdymor ar adferiad dros y 5 mlynedd nesaf.
Siaradodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi o blaid Cynllun y Cyngor a dywedodd ei fod yn ddogfen weledol a oedd yn cefnogi gwaith y Cyngor hyd at 2028 a llongyfarchodd y Swyddogion ar eu gwaith i ddatblygu’r Cynllun. Tynnodd sylw at bwysigrwydd yr is-flaenoriaeth newydd o fewn Cynllun y Cyngor i gomisiynu adolygiad data ar gyfer Sir y Fflint gwledig a chynnal ymgynghoriad cymunedol i ddeall anghenion cymunedau gwledig yn well erbyn Mawrth 2024.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1 -Trosolwg o’r Amcanion Lles, Blaenoriaethau, Is-flaenoriaethau a’u diffiniadau, a gwnaeth sylw ar y blaenoriaethau canlynol: lliniaru ffosffad, cyngor di-garbon net, ffyniant bro, adfywio gwledig ac adfywio canol trefi. Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at Atodiad 2, yr is-flaenoriaeth i leihau diweithdra, a’r diffiniad - gweithio gyda’n partneriaid i gefnogi unigolion i gael cyflogaeth. Trwy wneud sylw ar y camau cyflawni, gofynnodd a oedd y diffiniad yn gymwys i holl unigolion neu grwpiau dan anfantais yn unig.
Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiynau a phwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers. Eglurodd y byddai adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd yn ymwneud â lliniaru ffosffad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Gr?p Llywio Cynllunio yn y dyfodol. Cyfeiriodd at rôl y Pwyllgor Newid Hinsawdd a dywedodd fod cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r angen i gyflawni carbon niwtral erbyn 2030 a gallai gael ei ddarparu i’r Aelodau pe dymunent. Gan gyfeirio at y cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar dynnu’r Ffyniant Bro, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd dyfodol Ffyniant Bro yn hysbys ond gallai prosiectau gael ei halinio pe byddai cyllid ar gael. Hefyd ymatebodd y Prif ... view the full Cofnodion text for item 73