Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2023-28 Development (EY&C OSC)

Cyfarfod: 23/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 52)

52 Datblygiad Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 95 KB

Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2023-28.  Dywedodd fod adolygiad llawn wedi'i gynnal i sicrhau priodoldeb a pherthnasedd y blaenoriaethau, yr is-flaenoriaethau a’r amcanion lles wrth symud ymlaen.  Roedd hwn yn cynnwys adolygiad o Gynllun cyfredol y Cyngor 2022-23 i bennu:

 

·                Camau blaenoriaeth a fydd yn parhau o 2023 ymlaen ar gyfer sylw parhaus;

·                Camau blaenoriaeth y gellir eu tynnu gan eu bod nhw wedi’u cwblhau neu’n weithredol (mynd yn eu blaen yn ôl yr arfer); a

·                Meysydd blaenoriaeth, camau gweithredu a mesurau newydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer 2023-28

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023-28 sy'n berthnasol i'r Pwyllgor wedi'u hamlinellu a'u hatodi yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y mesur ar gyfer gostwng nifer y gwaharddiadau parhaol neu waharddiadau cyfnod penodol fel y dangosir ar dudalen 50 yr adroddiad a chwestiynodd bod cynnydd i’w weld o ran y targed o'r data sylfaenol.    Mewn ymateb i hyn, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwahaniaeth rhwng y data sylfaenol a'r targed oherwydd iddo gael ei gofnodi yn 2021/22 yn ystod cyfnod pan nad oedd data’n cael ei gasglu o ganlyniad i’r pandemig.  O ganlyniad i’r pandemig bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc a oedd yn cael anhawster cynnal eu presenoldeb yn yr ysgol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Parkhurst o ba rif y gostyngodd y niferoedd.  Os nad oedd y llinell sylfaen yn briodol o ganlyniad i’r pandemig, beth oedd niferoedd y llinell sylfaen bresennol.  Mewn ymateb i hyn dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) nad oedd ganddi'r ffigyrau cyfredol wrth law ond y byddai'n fodlon rhoi’r wybodaeth ar ôl y cyfarfod. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod adroddiad ar waharddiadau o’r ysgol i fod i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Gofynnodd a allai'r adroddiad gynnwys yr hyn yr oedd ysgolion yn ei wneud a pha gyfleusterau ychwanegol oedd yn cael eu cyflenwi.  Credai fod hwn yn fater ehangach oherwydd bod ysgolion wedi newid sut maen nhw’n gweithio er mwyn effeithio ar nifer y gwaharddiadau parhaol neu eu lleihau nhw, a oedd yn amlygu pa mor fawr oedd y broblem hon.

 

            Mewn ymateb i hyn, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at y troednodyn a oedd yn nodi bod y ffigur hwn wedi ystyried y sefyllfa cyn Covid o ran nifer y gwaharddiadau.  Dywedodd hi y byddai adroddiad manwl yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai a fyddai'n amlinellu'r dulliau a'r systemau newydd yr oedd yr awdurdod lleol wedi'u mabwysiadu.  Byddai’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae'r ysgolion yn ei wneud fel addasiadau i'r cwricwlwm, eu cynigion o ran modelau amgen a gwaith ar draws y Portffolio gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd David Mackie fod y darpariaethau ychwanegol yr oedd eu hangen yn gostus iawn i bob ysgol yr oedd eu cyllidebau dan bwysau. Gofynnodd a oedd y cyfleusterau ychwanegol yn debygol o  ...  view the full Cofnodion text for item 52