Mater - cyfarfodydd

Council Fund Revenue Budget 2023/24 - Final Closing Stage

Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 85)

85 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2023/24 - Y Cam Cau Olaf pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yn cynnwys yr argymhellion gan y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.

 

Gosododd y Cynghorydd Bernie Attridge gynnig i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu’r Cynghorydd Richard Jones i siarad am fwy na’r pum munud a ganiateir er mwyn cyflwyno cyllideb amgen, gan fod y cais i rannu cyflwyniad sleidiau ar hyn wedi’i wrthod. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

Yn dilyn cyngor ar y cynnig gweithdrefnol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), dywedodd y Cadeirydd nad oedd hi’n caniatáu ymestyn yr amser siarad, fel yr oedd hi wedi dweud o’r blaen, ac y byddai'r cynnig yn mynd ymlaen i bleidlais.

 

Wrth siarad yn erbyn y cynnig, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y bu cyfleoedd i Aelodau gyflwyno sylwadau drwy gydol y broses gyllidebol, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr amser siarad.

 

Wrth ddefnyddio ei hawl i ymateb, galwodd y Cynghorydd Attridge am ganiatáu i Aelodau eraill a oedd yn bresennol i siarad ar y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd modd cyflwyno sylwadau yn gynharach yn y broses gan nad oedd y gyllideb wreiddiol wedi'i darparu bryd hynny.  Gofynnodd felly fod y ddwy gyllideb gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Gofynnwyd i'r aelodau bleidleisio yngl?n ag a ddylid derbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r Cynghorydd Jones siarad am y gyllideb amgen am fwy na phum munud.  O’i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw a Chaffael, gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon

·         Y daith hyd yma...

·         Newidiadau i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24

·         Gofyniad cyllidebol ychwanegol 2023/24

·         Datrysiadau Cyllidebol 2023/24

·         Treth y Cyngor

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol

·         Risgiau Agored

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi

·         Edrych i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o newidiadau ers y sefyllfa ym mis Ionawr, gan arwain at ofyniad cyllidebol ychwanegol terfynol o £37.098 miliwn ynghyd â chanlyniad y gwaith ar yr amrywiaeth o ddatrysiadau cyllidebol arfaethedig sydd ar gael i alluogi’r Cyngor osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.  Ar sail hynny, yr oedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.96% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE).  Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 4.95% a roddodd arenillion ychwanegol cyffredinol o £5.622 miliwn yn 2023/24.  Roedd data cymharol yn awgrymu bod y cynnydd arfaethedig hwn ar gyfer Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ychydig yn is na chyfartaledd cyffredinol Cymru ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2023/24 yn cynnwys galw cynyddol am y gwasanaeth digartrefedd a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn ogystal â risgiau newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 85