Mater - cyfarfodydd

Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed

Cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet (eitem 131)

131 Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer cyflwyno cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn cynnwys y diweddaraf am ddatblygu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed yn Sir y Fflint a cheisiodd gefnogaeth i gyflwyno cais i fod yn aelod o Rwydwaith Byd Eang o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gan Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Byddai ymaelodi yn arwain at nifer o effeithiau cadarnhaol.  Byddai’n arddangos ymrwymiad Sir y Fflint i gefnogi, gwerthfawrogi a dathlu ei phoblogaeth sy’n heneiddio.   Byddai hefyd yn gyfle i rannu syniadau arfer gorau ac adnoddau gydag aelodau eraill. 

 

Roedd Sir y Fflint yn un o nifer fechan o siroedd a oedd wrthi’n llunio cynlluniau i gyflwyno cais.   Fe ymunodd Caerdydd yn ddiweddar, sef y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

 

Yn Sir y Fflint, roedd yna ymrwymiad hir sefydledig i ddatblygu cymunedau sy'n gyfeillgar i oed.  Yng Nghynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint, fe flaenoriaethodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ddatblygiad parhaus gwasanaethau a chymunedau sy’n gyfeillgar i oed.

 

Gwnaed cynnydd sylweddol dros nifer o flynyddoedd i greu cymunedau sy’n gyfeillgar i oedran ac sy’n deall dementia yn Sir y Fflint.   Roedd hynny’n cynnwys sefydlu caffis cymunedol, grwpiau gweithredu, rhannu gwybodaeth, prosiectau rhwng cenedlaethau a mentrau cynhwysiant digidol.  Gosododd y gwaith hwnnw sylfaen gadarn er mwyn datblygu a chydweithio pellach, oedd yn cyd-fynd â phroses ymaelodi strwythur rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu gwaith gyda’r fenter hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint;

 

(b)       Cymeradwyo'r cynnig bod Sir y Fflint yn cyflwyno cais am aelodaeth o Rwydwaith Byd Eang o Ddinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gan Sefydliad Iechyd y Byd; a

 

(c)        Rhoi ymrwymiad ar gyfer cefnogaeth barhaus holl wasanaethau’r Cyngor i gydweithio gyda thîm Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud Sir y Fflint yn lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.