Mater - cyfarfodydd
Statement of Accounts 2021/22
Cyfarfod: 25/01/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 48)
48 Datganiad Cyfrifon 2021/22 PDF 373 KB
Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 i gael eu cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Statement of Accounts 2021/22, eitem 48 PDF 2 MB
- Enc. 2 - Audit Wales report, eitem 48 PDF 410 KB
- Enc. 3 - Letter of Representation, eitem 48 PDF 377 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2021/22 gan ymgorffori newidiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad. Atgoffodd y Pwyllgor, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol, bod y dyddiad cau statudol a gafodd ei ymestyn ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio yn cael ei ymestyn ymhellach i 31 Ionawr 2023, yn bennaf oherwydd problem cyfrifeg technegol ar asedau isadeiledd.
Wrth grynhoi adroddiad Archwilio Cymru dyma Matthew Edwards yn diolch i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Rheolwr Cyllid Strategol a’r tîm am eu cefnogaeth wrth weithio’n effeithiol trwy’r problemau sy’n codi yn ystod yr archwiliad oedd yn adlewyrchiad o berthynas waith bositif. Tynnodd sylw at y lefel o fateroliaeth a gafodd ei bennu ar gyfer yr archwiliad a’r meysydd o ddiddordeb cyffredinol lle mae lefelau is yn berthnasol. Cadarnhaodd fod y cyfrifon wedi cael eu paratoi i safon dda a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyflwyno barn archwilio ddiamod. Darparodd eglurhad ar ddau broblem swyddogol o’r archwiliad (Dangosyn 2) a oedd yn gyson gydag awdurdodau eraill a chadarnhawyd fod y rhain yn ddiwygiadau cyfrifeg technegol a oedd wedi cael eu datrys yn foddhaol a ddim yn cael effaith ar sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor.
Wrth adleisio’r teyrnged a delir i swyddogion y Cyngor a chydweithwyr o Archwilio Cymru, croesawodd y Cadeirydd barhad i’r ymrwymiad bositif rhwng y ddau sefydliad i fynd i’r afael â’r problemau a nodir.
Roedd Allan Rainford yn cydnabod y cymhlethdod ynghlwm â llunio’r cyfrifon. Wrth ymateb i gwestiwn ar Nodyn 18 fe ddarparodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar gynnwys y trosglwyddiadau rhwng y Cyngor a phartïon perthnasol o fewn y cyfrifon. Ar gwestiynau pellach fe gadarnhaodd Matthew Edwards nad oedd ganddo bryderon a bod Sir y Fflint yn un o’r mwyafrif o gynghorau ar draws Cymru oedd yn disgwyl cymeradwyo eu cyfrifon o fewn y dyddiad cau statudol a ddiwygiwyd. Gyda threfniadau gwerth am arian, nodwyd fod y Crynodeb Archwilio Blynyddol yn cael ei rannu mewn cyfarfod i ddod.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst os fyddai modd rhannu’r gofrestr asedau gyda’r Pwyllgor. Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai hynny’n cael ei ddarparu ar yr amod ei fod yn cael ei gadw’n gwbl gyfrinachol oherwydd sensitifrwydd masnachol. [1] Yn ôl cais i rannu’r gofrestr o gysylltiadau ar gyfer uwch swyddogion, cynghorodd (er bod cofrestr yr Aelodau yn ddogfen gyhoeddus) nad oedd swyddogion yn destun cofrestr gorfodol ac felly byddai angen rhannu’r wybodaeth ar sail wirfoddol a gyda rheswm da oherwydd y wybodaeth bersonol ynghlwm.
Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst mai’r rheswm dros wneud y cais oedd i sicrhau’r Pwyllgor fod unrhyw wrthdaro buddiannau posib yn cael ei reoli’n gywir a dywedodd fod y nodiadau i’r datganiadau ariannol craidd ddim yn adlewyrchu’r natur wirfoddol o gofrestr diddordebau’r swyddog.
Cynghorodd y Prif Swyddog fod yna ddim gofyniad i’r trefniant gael ei nodi yn y cyfrifon. Eglurodd mai cyfrifoldeb y swyddogion unigol oedd rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau a chyfeiriodd at y Cod Ymddygiad a oedd yn destun adolygiad rheolaidd gan y Pwyllgor ... view the full Cofnodion text for item 48