Mater - cyfarfodydd
C4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2022/23
Cyfarfod: 22/03/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 63)
63 Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2022/23 PDF 156 KB
Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2023.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Investment portfolio as at 28-02-23, eitem 63 PDF 29 KB
- Enc. 2 - Long term borrowing as at 28-02-23, eitem 63 PDF 88 KB
- Enc. 3 - Short term borrowing as at 28-02-23, eitem 63 PDF 18 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y diweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2023. Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yn ymwneud â buddsoddiad a benthyca hirdymor a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon o ran cyfraddau llog.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gefndir ar amseru’r benthyciad hirdymor o £5m a gymrwyd gyda’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn ystod y chwarter.
Pan holodd y Cynghorydd Glyn Banks y swyddog cadarnhaodd y swyddog fod yr Opsiwn Rhoddwr Benthyciadau Opsiwn Benthycwr yn opsiwn buddsoddi a ystyriwyd yn y trafodaethau gydag ymgynghorwyr rheoli'r trysorlys.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i eiliwyd gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2022/23.