Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 87)
Pwrpas: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Treasury Management Strategy 2023/24, eitem 87 PDF 780 KB
- Enc. 2 - TM Policy Statement 2023-26, eitem 87 PDF 207 KB
- Enc. 3 - TM Practices & Schedules 2023-26 Part 1, eitem 87 PDF 257 KB
- Enc. 4 - TM Practices & Schedules 2023-26 Part 2, eitem 87 PDF 661 KB
- Enc. 5 - Cabinet report 23-02-23, eitem 87 PDF 366 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys ac Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023-26 fel sydd wedi’i atodi.
Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r Strategaeth ers y flwyddyn flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.
(b) Cymeradwyo Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026; a
(c) Cymeradwyo Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026.