Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Strategy 2023/24, Treasury Management Policy Statement, Practices & Schedules 2023-26

Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 87)

87 Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026 pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys ac Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023-26 fel sydd wedi’i atodi.

 

Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r Strategaeth ers y flwyddyn flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.

 

(b)       Cymeradwyo Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026; a

 

(c)       Cymeradwyo Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026.