Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10)
Cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet (eitem 139)
139 Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 10) PDF 129 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2022/23 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10), eitem 139 PDF 55 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10), eitem 139 PDF 102 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10), eitem 139 PDF 25 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10), eitem 139 PDF 75 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10), eitem 139 PDF 111 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 10)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol hyd at fis 10.
Roedd yr adroddiad yn darogan sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, sef:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £0.693 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniadau cyflog a oedd wedi’u talu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.810 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym Mis 9.
· Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2023 yn £7.024 miliwn
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £3.101 miliwn yn uwch na’r gyllideb.
· Rhagwelir y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2023 yn £3.373 miliwn.
Helpodd Cyllid Caledi gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dros £16 miliwn o gymorth ariannol uniongyrchol y flwyddyn flaenorol, ac roedd cyfanswm taliadau o £4.8 miliwn ar gyfer 2022/23 yn parhau i gael eu hawlio ar gyfer taliadau ategol Tâl Salwch Statudol a Hunan-ynysu, ynghyd â thaliadau uniongyrchol Prydau Ysgol am Ddim a Taliadau Tanwydd y Gaeaf o fewn eu cyfnodau cymwys.
Bydd y risgiau agored sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn parhau i gael eu hadolygu’n ofalus.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2022/23;
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen; a
(c) Cymeradwyo trosglwyddo £0.200m o’r gronfa wrth gefn at raid i ail-lenwi Cronfa wrth Gefn i gynnal a Chadw yn y Gaeaf.