Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol
Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 158)
158 Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol PDF 141 KB
Pwrpas: Mabwysiadu Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Rhanbarthol a chefnogi datblygiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Energy Strategy & Action Plan and Local Area Energy Plan, eitem 158 PDF 549 KB
- Enc. 2 for North Wales Energy Strategy & Action Plan and Local Area Energy Plan, eitem 158 PDF 146 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y broses cynllunio ynni rhanbarthol ac yn ymgorffori blaenoriaethau mewn camau gweithredu ac ymyriadau strategol.
Argymhellodd y dylid cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a darparodd wybodaeth am gychwyn Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Sir y Fflint.
Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.
Byddai datblygiad y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd ac yna i'r Cabinet.
Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru; a
(b) Nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.