Mater - cyfarfodydd

Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol

Cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet (eitem 158)

158 Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a Chynllun Ynni Ardal Leol pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Rhanbarthol a chefnogi datblygiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y broses cynllunio ynni rhanbarthol ac yn ymgorffori blaenoriaethau mewn camau gweithredu ac ymyriadau strategol. 

 

Argymhellodd y dylid cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru a darparodd wybodaeth am gychwyn Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Sir y Fflint.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cafodd ei gefnogi.

 

Byddai datblygiad y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd ac yna i'r Cabinet.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Gogledd Cymru; a

 

(b)       Nodi dechrau Cynllunio Ynni Ardal Leol yn y sir.