Mater - cyfarfodydd
Rolling Review of the Councillors Code of Conduct
Cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 28)
28 Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr PDF 83 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Rolling Review of the Councillors Code of Conduct, eitem 28 PDF 363 KB
- Enc. 2 for Rolling Review of the Councillors Code of Conduct, eitem 28 PDF 175 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad. Roedd y newidiadau a argymhellwyd wedi eu hamlinellu yn adran 1.01 o’r adroddiad a’r geiriau angenrheidiol i weithredu’r newidiadau wedi’i ychwanegu i’r Cod Ymddygiad fel newidiadau drafft yn Atodiad1. Darparwyd copi glân o’r “fersiwn gorffenedig” yn Atodiad 2.
Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan Aelodau yn ymwneud â’r diffiniad o ‘drosedd/ymddygiad troseddol’ fel y cyfeirir yn y paragraff newidiadau arfaethedig 1.01 (vi). Eglurodd fod yna rwymedigaeth yn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr adrodd am fater o drosedd/ymddygiad troseddol fyddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod priodol i gymryd camau priodol. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw Gynghorydd oedd yn euog o drosedd/ymddygiad troseddol yn destun y gyfraith troseddol ac os yn cael eu canfod yn euog yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn awgrymu bod gofyniad yn cael ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad bod holl Aelodau yn derbyn gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) manylach ar ddechrau’r tymor mewn swydd. Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Attridge ac eglurodd y byddai’n cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i hysbysu am y cyngor cyfreithiol ar pa swyddi o fewn y Cyngor y gellir cynnal gwiriad GDG a’r angen am bolisi yn y dyfodol. Roedd y Cadeirydd yn argymell y dylid cynnwys hyn fel eitem yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’r Pwyllgor ei ystyried ac roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn eilio hyn. Roedd y bleidlais ddilynol o blaid y cynnig.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Ian Hodge.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad Cynghorwyr yn
cael eu cymeradwyo; a
(b) Bod adroddiad ar y potensial i gynnal gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) i holl Gynghorwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.