Mater - cyfarfodydd

Rolling Review of the Councillors Code of Conduct

Cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 28)

28 Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad.   Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.  Roedd y newidiadau a argymhellwyd wedi eu hamlinellu yn adran 1.01 o’r adroddiad a’r geiriau angenrheidiol i weithredu’r newidiadau wedi’i ychwanegu i’r Cod Ymddygiad fel newidiadau drafft yn Atodiad1.    Darparwyd copi glân o’r “fersiwn gorffenedig” yn Atodiad 2.

 

Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd gan Aelodau yn ymwneud â’r diffiniad o ‘drosedd/ymddygiad troseddol’ fel y cyfeirir yn y paragraff newidiadau arfaethedig 1.01 (vi).  Eglurodd fod yna rwymedigaeth yn y Cod Ymddygiad i Gynghorwyr adrodd am fater o drosedd/ymddygiad troseddol fyddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod priodol i gymryd camau priodol.   Eglurodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw Gynghorydd oedd yn euog o drosedd/ymddygiad troseddol yn destun y gyfraith troseddol ac os yn cael eu canfod yn euog yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn awgrymu bod gofyniad yn cael ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad bod holl Aelodau yn derbyn gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) manylach ar ddechrau’r tymor mewn swydd.    Roedd y Prif Swyddog yn ymateb i’r pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Attridge ac eglurodd y byddai’n cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i hysbysu am y cyngor cyfreithiol ar pa swyddi o fewn y Cyngor y gellir cynnal gwiriad GDG a’r angen am bolisi yn y dyfodol.  Roedd y Cadeirydd yn argymell y dylid cynnwys hyn fel eitem yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’r Pwyllgor ei ystyried ac roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn eilio hyn.   Roedd y bleidlais ddilynol o blaid y cynnig.   

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y newidiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad Cynghorwyr yn 

cael eu cymeradwyo; a

 

(b)       Bod adroddiad ar y potensial i gynnal gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) i holl Gynghorwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.