Mater - cyfarfodydd

Woodland Strategy (Urban Tree & Woodland Plan and Flintshire Forest)

Cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 55)

55 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Strategaeth Coetiroedd pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am ddarparu’r Cynllun Coetir a Choed Dinesig a gofyn am farn Aelodau ar ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad, gan gadarnhau y mabwysiadwyd y Strategaeth Coed a Choetiroedd yn 2018 i helpu plannu coed a chynyddu’r brigdwf coed.    Aeth Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) ymlaen i ddweud y sefydlwyd y Strategaeth Coed a Choetiroedd i gynyddu'r brigdwf coed ac i sicrhau bod coed yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, gan amlygu’r manteision y mae coed yn eu cynnig i drigolion Sir y Fflint.  Amlinellodd y targedau a osodwyd ar gyfer cynyddu’r brigdwf coed o 14.5% i 18% erbyn 2033.  Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal yr asesiad o’r brigdwf coed, ond nid yw hyn wedi cael ei adolygu ers 2018, felly nid oedd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar hyn o bryd.

 

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fod coed wedi cael eu plannu yn y blynyddoedd diweddar ar safleoedd a nodwyd yn y sir, gan ddefnyddio cyllid Grant Gwella Coetiroedd Llywodraeth Cymru a’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  Amlinellodd sut y cynyddwyd y brigdwf coed gyda chynlluniau coed wedi’u cynllunio’n dda, gan sicrhau ôl ofal a chynnwys cymunedau lleol i wneud yn si?r bod y coed yn goroesi.  Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y broses a ddilynwyd i sicrhau bod y prosiectau plannu hyn yn llwyddiannus.  Cafodd dros 23,000 o goed eu plannu dros y 4 blynedd diwethaf, a chanmolodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) ei dîm am eu gwaith caled a wnaeth hyn yn bosib.   Roedd ymgysylltu â chymunedau’n allweddol i hyn, a darparodd fap stori o brosiectau plannu coed ledled y sir a oedd yn amlygu’r gwaith a wnaed.

 

            Yna, cafwyd gwybodaeth gan Reolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) am ddatblygiad arfaethedig Coedwig Sir y Fflint.  Awgrymwyd y gallai Coedwig Sir y Fflint adlewyrchu cyfeiriad Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.  Amlinellodd yr amcanion ar gyfer creu ardaloedd o goetir newydd, mannau hamdden a natur, casglu a storio carbon, yn ogystal â darparu pren.  Byddai angen cydweddu amcanion allweddol y Strategaeth Coed a Choetiroedd Trefol a Choedwig Sir y Fflint.  Cyfeiriodd yr aelodau at y fframwaith ym mhwynt 1.11 yr adroddiad, gan gynnig trosolwg o’r elfennau allweddol, y weledigaeth a’r ymgysylltiad â’r cyhoedd.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roy Wakelam am ddiogelu coed h?n presennol, amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fecanweithiau fel Gorchmynion Diogelu Coed ac amodau cynllunio.  Cyfeiriodd at ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd cyn cychwyn ar brosiectau plannu a’r ychydig o wrthwynebiad a gafwyd i blannu coed, gan ddweud bod ymgysylltu â’r cyhoedd i dynnu sylw at fanteision coed, yn ogystal â sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu, yn allweddol i’w diogelwch parhaus.  Byddai hybu plannu coed da, gan blannu’r coed cywir mewn datblygiadau newydd, yn sicrhau gwell canlyniadau.   Gan gyfeirio at golli coed, cadarnhaodd y collwyd tua 1,000 o goed o ganlyniad i glefyd coed ynn dros y  ...  view the full Cofnodion text for item 55