Mater - cyfarfodydd

Adoption of the Flintshire Local Development Plan (LDP).

Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 67)

67 Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint. pdf icon PDF 157 KB

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr adroddiad, gadawodd y Cynghorydd David Healey a’r Cynghorydd Gladys Healey yr ystafell, gan fod y ddau wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu â Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint, .

 

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi adroddiad i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (CDLl).  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Arolygwyr y CDLl wedi cwblhau eu trafodaethau a bod eu Hadroddiad Terfynol ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, dyddiedig 15 Rhagfyr 2022, wedi’i gyhoeddi.   Cafodd yr Adroddiad Terfynol a’i atodiadau eu cynnwys yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad a thalodd deyrnged i bawb a gymerodd ran am eu proffesiynoldeb, eu dycnwch a'u cydweithrediad wrth gynhyrchu'r CDLl.   I gloi, dywedodd y Prif Swyddog pe bai’r CDLl yn cael ei fabwysiadu y byddai’n rhoi sicrwydd i gymunedau yn Sir y Fflint ynghylch yr ardaloedd a’r amgylcheddau y byddai’n cael eu diogelu ac y byddai’n nodi nifer bychan o ardaloedd lle gallai datblygiad, mewn egwyddor, ddigwydd yn amodol ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.  Byddai'r CDLl yn rhoi'r polisïau perthnasol i'r Cyngor ar gyfer penderfynu ar ddatblygiadau arfaethedig. 

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth am y rhesymau cadarnhaol dros fabwysiadu’r CDLl a chyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ymwneud ag Adroddiad yr Arolygydd.    Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Adroddiad terfynol yr Arolygydd

·         y broses fabwysiadu

·         dyletswydd gyfreithiol

·         canlyniadau yn sgil peidio â mabwysiadu

·         ar ôl mabwysiadu

·         gohebiaeth ddiweddar

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) dynnu sylw at y dyletswyddau cyfreithiol sydd wedi’u nodi ym mharagraff 1.13 yr adroddiad a chyfeiriodd at y dewisiadau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad naill ai i fabwysiadu'r polisi heb ei ddiwygio, neu ei wrthod yn ei gyfanrwydd.  Eglurodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw rym dan y Rheoliadau i fabwysiadu’r CDLl yn rhannol nac ei ddiwygio a rhoddodd gyngor ar oblygiadau'r dewisiadau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell o blaid y CDLl a chynigiodd yr argymhellion yn yr adroddiad.    Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes ei fod yn cefnogi’r CDLl yn llwyr ac eiliodd y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson o blaid y CDLl ac anogodd Aelodau i gefnogi’r argymhellion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod yn cefnogi’r CDLl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sam Swash yn erbyn mabwysiadu’r CDLl a dywedodd nad oedd trigolion Penarlâg/Ward Mancot yn cefnogi’r Cynllun.

 

Dywedodd y Cynhorydd Mike Peers bod y CDLl yn rhoi ‘sicrwydd’ a soniodd am y broblem o ran “datblygu hapfasnachol” yn Sir y Fflint.  Dywedodd ei fod yn cefnogi’r CDLl ar y cyfan.

 

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown y byddai mabwysiadu’r CDLl yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a soniodd am faterion yn ymwneud â llifogydd yn ei Ward hi, a diffyg isadeiledd ac ysgolion.  Anogodd yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y CDLl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gillian Brockley nad oedd hi’n gallu cefnogi pob agwedd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 67