Mater - cyfarfodydd
Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 86)
86 Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 PDF 98 KB
Pwrpas: Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Resolutions, eitem 86 PDF 108 KB
- Enc. 2 - Statistical information, eitem 86 PDF 43 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yr adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2023/24 yn rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Gofynnwyd i'r Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.
Roedd lefel gyffredinol Treth y Cyngor yn cynnwys tri phraesept ar wahân a oedd yn rhan o’r cyfanswm a godwyd ar bob eiddo. Roedd y cynnydd o 3.99% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau o ran fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid llywodraeth ganolog a'r Grant Cynnal Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac yn cynnal graddfa a chymhlethdod y galw am wasanaethau. Roedd y cyfanswm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £101,126,334; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £21,922,318; a phraesept gyfunol o £3,421,107 ar draws pob Cyngor Tref a Chymuned.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Paul Johnson.
Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylwadau ar y gostyngiad parhaus yn y cynnydd blynyddol yng Nghyllid Allanol Cyfun y Cyngor gan Lywodraeth Cymru a oedd yn effeithio ar drigolion o ran lefelau Treth y Cyngor.
Cafodd ei sylwadau eu cydnabod gan y Cynghorwr Chris Bithell a gyfeiriodd at yr effaith a gaiff llai o gyllid canolog ar wasanaethau’r Heddlu.
Roedd yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, ac felly cafwyd pleidlais ar bob un o’r argymhellion a chawsant eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth y Cyngor 2023/24 yn cael ei gosod fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
(b) Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel taliadau Treth y Cyngor 2023/24 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Yn ogystal â hyn, pan nad yw eithriadau’n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar anheddau gwag hirdymor dynodedig a 100% ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2023; a
(c) Cymeradwyo swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi heb eu talu.