Mater - cyfarfodydd
Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution.
Cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 74)
Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution., eitem 74 PDF 180 KB
- Enc. 2 for Adoption of the Model Ordinary Language Guide to the Constitution and updates made to the National Model Constitution., eitem 74 PDF 481 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Mabwysiadu’r Canllaw Iaith Gyffredin Model i’r Cyfansoddiad a gwneud diweddariadau i’r Cyfansoddiad Model Cenedlaethol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad wedi’i ddiwygio yn dilyn gwaith y gweithgor y cafodd ei benodi gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y gweithgor wedi ystyried model y canllaw iaith gyffredin drafft mewn cysylltiad â’r cyfansoddiad a’r diwygiadau i Fodel y Cyfansoddiad wedi’i ddiweddaru drafft ac wedi adrodd yn ôl i gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y cafodd ei gynnal ar 12 Ionawr 2023. Penderfynodd y Pwyllgor wneud yr argymhellion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad i'r Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1, paragraff 1.2 (iii), ac awgrymodd y dylid dileu'r is-baragraff gan ei fod yn credu bod swyddogaeth Aelodau Etholedig i gefnogi’r Cyngor a bod yn eiriolwr iddo eisoes wedi’i drafod ym mharagraff (ii). Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gwelliant ac eglurodd y gallai gael ei gynnwys yn yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pe bai'n cael ei fabwysiadu.
Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylai disgrifiadau o’r swyddogaethau ym Model y Cyfansoddiad drafft fod yn amodol ar ymgynghori ag Aelodau perthnasol, cyn i'r cyfansoddiad wedi'i ddiweddaru gael ei fabwysiadu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; a
(b) Cymeradwyo’r canllaw iaith gyffredin i’w fabwysiadu yn y Cyfarfod Blynyddol,
yn amodol ar gymharu’r ddogfen derfynol a chroesgyfeirio â’r cyfansoddiad drafft er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb rhwng y dogfennauhynny.