Mater - cyfarfodydd

Waste Strategy Review

Cyfarfod: 17/01/2023 - Cabinet (eitem 109)

109 Adolygiad Strategaeth Gwastraff pdf icon PDF 195 KB

Pwrpas:        Adolygu Strategaeth Wastraff bresennol y Cyngor gyda’r amcan o gyflawni targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y Strategaeth Gwastraff wedi cael ei adolygu dair gwaith yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac mai’r adolygiad diweddaraf oedd ‘Targed 70’ ym mis Gorffennaf 2021. Roedd yr adolygiadau hynny wedi caniatáu i’r Cyngor roi newidiadau mawr ar waith mewn gwasanaethau, oedd wedi cyfrannu at wella’r ffordd y mae gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu darparu.

 

Yn ei Strategaeth Gwastraff presennol, ‘Mwy nag Ailgylchu’, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol i awdurdodau lleol yng Nghymru i ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio o leiaf 64% o’u gwastraff erbyn 2022-23 a 70% erbyn 2024-25.

 

Fodd bynnag, roedd lefelau perfformiad ailgylchu yn Sir y Fflint wedi gostwng yn raddol o un flwyddyn i’r llall a chafodd y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig effaith sylweddol. Pwrpas yr adolygiad hwn yw canolbwyntio ar gyflawni’r targedau ailgylchu statudol ac osgoi cosb ariannol os na chânt eu cyflawni.

 

Yn dilyn dau weithdy i’r Aelodau i gyd ym mis Tachwedd 2022, amlinellodd yr adroddiad sut y cynigir lleihau gwastraff ac ailgylchu mwy er mwyn gwella perfformiad ailgylchu a chyflawni’r targedau ailgylchu statudol.

 

Yn dilyn dadansoddiad diweddar o gynnwys, yn ôl y canlyniadau cychwynnol, roedd hyd at 50% o’r hyn a roddwyd mewn biniau gwastraff gweddilliol gan breswylwyr Sir y Fflint yn ddeunydd y gellir ei ailgylchu. Yn ogystal, roedd 27% o’r gwastraff gweddilliol yn wastraff bwyd. Gan fod gwasanaeth casglu wythnosol ar wahân ar ymyl y palmant ar gyfer gwastraff bwyd a bod ailgylchu’n cael ei gasglu bob wythnos hefyd, nid oedd y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac roedd yn parhau yn risg sylweddol i’r awdurdod lleol.

 

Cafodd themâu cyffredinol yr adborth o’r gweithdai i Aelodau eu hamlinellu yn yr adroddiad. Mesur allweddol a gyflwynwyd gan nifer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru oedd cyfyngu ar faint o wastraff y gallai aelwydydd ei daflu. Drwy gyfyngu ar gapasiti’r bin gwastraff gweddilliol, byddai pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio mwy ar y gwasanaeth casglu ailgylchu ar ymyl y palmant. Gellir lleihau gwastraff gweddilliol drwy leihau maint y bin gwastraff gweddilliol neu newid pa mor aml mae gwastraff yn cael ei gasglu.  

 

Roedd nifer o fodelau casglu gwastraff ar draws Cymru wedi cael eu cymharu ac roedd yn glir bod cyfyngu ar wastraff gweddilliol wedi gwella lefelau ailgylchu, oedd yn ei dro wedi cael effaith sylweddol ar berfformiad ailgylchu. Mae lleihau capasiti gwastraff gweddilliol i 60 litr wedi arwain at y gwelliannau cyfartalog canlynol:

·         Gostyngiad cyffredinol o 30% mewn gwastraff gweddilliol aelwydydd (yn cynnwys Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref)

·         Cynnydd o 17% mewn ailgylchu sych o ymyl y palmant

·         Cynnydd o 28% mewn gwastraff da a gesglir

 

Pe bai amlder y casgliadau’n newid o’r model pythefnos presennol, byddai hynny’n cael effaith ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaethau casglu.   Roedd y manylion llawn yn yr adroddiad. Os bydd amlder y casgliadau’n newid, gallai hyn olygu bod angen newid maint y cynwysyddion neu’r math o gynwysyddion a ddefnyddir, fyddai’n golygu ystyriaethau eraill megis cyllid, iechyd a diogelwch, effaith  ...  view the full Cofnodion text for item 109