Mater - cyfarfodydd
Member Workshops, Briefings and Seminars Update
Cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 32)
32 Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau PDF 104 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd neu a drefnwyd ers yr adroddiad diwethaf. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y rhaglen sefydlu wedi’i bwriadu i roi gorolwg i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd o sut roedd y Cyngor yn gweithio, gan gynnwys rheolau a rheoliadau, rôl Aelodau Etholedig a rôl Swyddogion. Gan fod Aelodau nawr wedi setlo i’w rolau, roedd yn briodol ystyried sut y gallent gael eu cefnogi yn eu datblygiad dros y 4 blynedd nesaf. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad a dywedodd bod ‘dadansoddiad anghenion hyfforddiant’ holl Aelodau wedi’i awgrymu i sicrhau bod yr hyfforddiant yn berthnasol i ddymuniadau ac anghenion Aelodau a hefyd i fynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau sy’n bodoli ar draws y Sir.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Hodge a’u heilio gan y Cynghorydd Antony Wren
PENDERFYNWYD:
(a) Bod ‘dadansoddiad o anghenion hyfforddiant’ yn cael ei gynnal ar gyfer pob Aelod gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i lywio rhaglenni
datblygu yn well yn y dyfodol.
(b) Os oedd gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer datblygu, eu bod yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod; a
(c) Bod cynllun hyfforddiant a datblygu drafft yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor ym mis Mehefin.