Mater - cyfarfodydd
Siarter Archwilio Mewnol
Cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 11)
11 Siarter Archwilio Mewnol PDF 82 KB
Amlinellu’r Siarter Archwilio Mewnol (sydd wedi ei ddiweddaru) i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - IA Charter with tracked changes, eitem 11 PDF 351 KB
- Enc. 2 - IA Charter including changes, eitem 11 PDF 350 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Siarter Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad yngl?n â chanlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r Siarter er mwyn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddio, lle mai dim ond mân newidiadau oedd wedi’u nodi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y swyddog bod cyfeiriad at wasanaethau a ddarperir i sefydliadau allanol bellach yn cael ei adlewyrchu yn y Siarter, i gyd-fynd ag arferion gorau.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol diweddaraf.