Mater - cyfarfodydd
Cod Llywodraethu Corfforaethol
Cyfarfod: 25/01/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 52)
52 Cod Llywodraethu Corfforaethol PDF 123 KB
Cadarnhau’r adolygiad o’r Cod Llywodraethu Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Code of Corporate Governance, eitem 52 PDF 932 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cod Llywodraethu Corfforaethol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried ym mis Mawrth. Fe dynnodd sylw at y meysydd allweddol yn cynnwys rolau’r Gweithgor Llywodraethu Corfforaethol a’r saith egwyddor o arfer da sy’n berthnasol i’r cod.
Cynghorodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg fod newid bychan lle mae cyfeiriad at ymateb mewn argyfwng yn sgil y pandemig wedi cael ei dynnu allan.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.