Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24 - Welsh Local Government Provisional Settlement

Cyfarfod: 12/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 68)

68 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24 - Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad yw 1) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau ariannol a phenawdau allweddol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru 2) rhoi adborth o'r gyfres o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu penodol 3) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a’r peryglon i'r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a 4) rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud ynghylch y datrysiadau cyllidebol sydd ar gael i'r Cyngor er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2023/24 gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar brif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ac adborth o’r cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu diweddar. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf yn manylu ar newidiadau a risgiau i'r gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer 2023/24 a gwaith sy'n cael ei wneud ar y datrysiadau sydd ar gael i alluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

Wrth dynnu sylw at brif feysydd yr adroddiad, atgoffodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai amcangyfrif y gofyniad cyllideb ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 oedd £32.448 miliwn ym mis Tachwedd 2022. Yn dilyn adolygiad manwl gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, roedd pwysau o ran costau pob portffolio wedi'u derbyn ac ni nodwyd unrhyw feysydd lleihau costau newydd. Roedd crynodeb o'r prif themâu o'r sesiynau hynny ynghlwm â’r adroddiad. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) dros dro ar gyfer 2023/24 yn cynrychioli cynnydd o 8.4% a oedd yn cymharu'n ffafriol ag awdurdodau eraill yng Nghymru. Roedd hyn yn adlewyrchu cynnydd ariannol o £19.568 miliwn dros Gyllid Allanol Cyfun 2022/23 o £232.179 miliwn, fodd bynnag roedd dyraniad cyllid y pen Sir y Fflint yn parhau yn yr ugeinfed safle o blith y 22 awdurdod Cymru. Roedd cynnydd yn y dyraniad refeniw dangosol ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer 2024/25 yn cyfateb i gynnydd o 3.1% yn 2024/25 o’i gymharu â’r cynnydd dangosol blaenorol o 2.4%.

 

Er y croesawyd y Setliad cynyddol ar gyfer 2023/24, roedd hyn yn cyfateb i tua 60% o bwysau o ran costau amcangyfrifedig y Cyngor a nodwyd. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn manylu ar newidiadau a gynyddodd gofyniad y gyllideb ychwanegol i £32.978 miliwn ynghyd â nifer o risgiau parhaus a allai effeithio ymhellach ar y sefyllfa. Gan fod y Setliad Dros Dro yn annhebygol o newid yn sylweddol, byddai angen i gyfuniad o'r datrysiadau cyllideb sy'n weddill gyfrannu at y bwlch o £13.410 miliwn sy'n weddill er mwyn gallu gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys. Yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, byddai angen ystyried dewisiadau lleihau costau portffolio sy’n werth cyfanswm o £6.166 miliwn er mwyn penderfynu pa rai i'w datblygu fel rhan o gynigion terfynol y gyllideb. Byddai ystyriaethau cyllidebol eraill yn cynnwys effaith y gostyngiad mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, canlyniad yr Adolygiad Actiwaraidd Tair Blynedd o Gronfa Bensiynau Clwyd, cyllidebau dirprwyedig ysgolion a lefel Treth y Cyngor.

 

O ran balansau a chronfeydd wrth gefn, roedd yn cael ei argymell i'r Cabinet bod y dyraniad Cymorth Refeniw ychwanegol o £2.4 miliwn a dderbyniwyd ar ddiwedd 2022/23 yn cael ei drosglwyddo i'r Gronfa Wrth Gefn i gynyddu'r lefel sy'n weddill a diogelu'r Cyngor rhag risgiau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwyntiau heb eu datrys a godwyd gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y dewisiadau portffolio Tai a'r Amgylchedd nad oedd wedi'u cynnwys yn yr atodiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr atodiad yn crynhoi'r prif themâu o'r sesiynau gydag Aelodau Cabinet yn bresennol  ...  view the full Cofnodion text for item 68