Mater - cyfarfodydd

North Wales Growth Deal – Quarter 2 Performance

Cyfarfod: 10/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 45)

45 Bargen Dwf Gogledd Cymru - Perfformiad Chwarter 2 pdf icon PDF 104 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’i weithgareddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad perfformiad canol blwyddyn gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ac atgoffodd yr Aelodau o’r sesiwn gyflwyno a gynhaliwyd ar ddechrau’r hydref y llynedd.   Roedd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd £240m o arian cyfalaf (£120m gan Lywodraeth Cymru a £120m gan Lywodraeth y DU) i’w wario ar draws pum rhaglen, sef Digidol, Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo, Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. Nodwyd bod y pum rhaglen yn ‘oren’ o ran cynnydd a darparodd wybodaeth fanwl am y prosiect Bodelwyddan a dynnwyd yn ei ôl, gyda £10m yn dychwelyd i gronfeydd y Bwrdd Uchelgais.   Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Ffyrdd, a oedd bellach yn ddisgwyliedig yn 2023, y Porth Gorllewinol a datblygiad Warren Hall.  Gobeithiwyd y byddai’r Swyddog Rhaglen ar gyfer Tir ac Eiddo yn gallu bod yn bresennol yng nghyfarfod mis Mawrth ac y byddai Swyddogion Rhaglenni eraill yn gallu dod i gyfarfodydd yn y dyfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn gyntaf at y cwestiwn am fuddsoddi yn y sector preifat ac fe gadarnhaodd fod hyn yn cael ei adolygu’n gyson a’i fod wedi cael ei nodi fel risg oren.  Derbyniodd y Swyddog Rhaglen bod angen ymgysylltu’n fwy â’r sector preifat.

 

            Wrth ymateb i’r cwestiwn a oedd yn holi a oedd unrhyw un o’r prosiectau mewn perygl, dywedodd mai’r ateb oedd na, ond bod hyn hefyd yn cael ei adolygu’n gyson.

 

            Gan gyfeirio at y cwestiwn am yr Adolygiad Ffyrdd mewn perthynas â safle Warren Hall, nid oedd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn deall pam fod ffordd fewnol ar safle Llywodraeth Cymru wedi cael ei chynnwys yng nghwmpas yr Adolygiad Ffyrdd.

 

            Gan symud ymlaen i’r sylw am 440 swydd, roedd yn hyderus y gallai safle Warren Hall ddarparu’r swyddi hyn, yn enwedig ar ôl rhyddhau’r tir ar gyfer tai.

 

            Yn olaf, wrth gyfeirio at y sylw am weithgynhyrchu ar ben uchaf y farchnad, fe amlinellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) sut yr oedd y dechnoleg optig yn cael ei chanfod, ynghyd â’r technolegau gwyrdd a disgrifiodd pa dechnolegau oedd hefyd yn cael eu hyrwyddo.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey fod yr hyn yr oedd y chwe Chyngor wedi’i gyflawni, wrth gydweithio o fewn Bargen Dwf Gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i sicrhau cyllid a chanfod prosiectau mor gadarnhaol, yn gwbl anhygoel.  Soniodd am ymweliad trawiadol i’r Ganolfan Prosesu Signal Digidol ym Mangor a ariannwyd drwy’r fenter hon.   Roedd yn falch o weld cymaint o brosiectau ynni gwyrdd carbon isel, yn enwedig o fewn y sectorau bwyd-amaeth a thwristiaeth a oedd yn dda i gymunedau gwledig.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi Perfformiad Chwarter 2.