Mater - cyfarfodydd
Adroddiad ar Gynnydd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd
Cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet (eitem 125)
125 Adroddiad ar Gynnydd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd PDF 165 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad ar gynnydd o fewn y rhaglen newid yn yr hinsawdd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Climate Change Programme Progress Report, eitem 125 PDF 182 KB
- Enc. 2 for Climate Change Programme Progress Report, eitem 125 PDF 80 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad ar Gynnydd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon sero net erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 ar Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar draws y prif themâu yn y strategaeth: Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, Defnydd Tir ac
Ymddygiad.
Bu cynnydd o 1% yng nghyfanswm yr allyriadau carbon ar gyfer 2021/22 o waelodlin 2018/09. Bu gostyngiad ym mhob ffynhonnell allyriadau carbon y tu hwnt i’r targedau canran, heblaw am Gaffael gafodd cynnydd o 24%. Roedd yr allyriadau o’r ffynhonnell yma’n uniongyrchol gysylltiedig â gwerth gwariant ac felly, roedd y fethodoleg bresennol yn effeithio’n andwyol ar gyfanswm ôl-troed carbon y Cyngor.
Roedd y gwaith o symud y fflyd ceir i ddewisiadau carbon isel eraill a darparu isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar gyfer fflyd y Cyngor yn mynd rhagddo’n araf. Roedd yna hefyd angen i sefydlu newid hinsawdd a lleihau carbon ar draws y Cyngor, a gallai mwy o welededd a darparu hyfforddiant gyflawni hynny.
Byddai rheoli datblygiad ynni effeithlon yn adeiladau’r Cyngor yn galluogi gostyngiadau parhaus ar gyfer y thema hwnno. Roedd y meysydd hynny angen ffocws penodol a chefnogaeth refeniw dros y blynyddoedd i ddod er mwyn cyflynu datgarboneiddio ac i aros ar y trywydd tuag at y nod o fod yn sero carbon net erbyn 2030.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno'n ddiweddar i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd a ffurfiwyd yn ddiweddar, lle cafodd casgliadau’r adroddiad, a’r argymhellion eu cefnogi. Cafodd ei gyflwyno hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, lle cafodd ei gefnogi. Byddai portffolio’n cael ei enwi i gynnal peilot ar gaffael.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell am gaffael, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r effaith caffael fyddai 60/70% bob amser ar unrhyw gorff sector cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adrodd gostyngiad sylweddol felly fe gysylltwyd â nhw er mwyn canfod y manylion o ran sut maent wedi cyflawni hyn. Roedd hi’n her y mae angen i bob corff cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â hi.
Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cytunwyd yn ddiweddar gyda Chyngor Sir Ddinbych y byddant yn penodi Swyddog Lleihau Carbon a fyddai’n gweithio mewn ffordd debyg i’r Swyddog Gwerth Cymdeithasol, i weithio gyda’r portffolio peilot er mwyn sefydlu sut y gallai manylion gwasanaeth gael eu hymestyn ar bethau megis adeiladu cartrefi a chludiant.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson ei fod yn aelod o’r Cyd-fwrdd Rheoli Caffael a chafodd hyn ei godi yn y cyfarfod diwethaf. Roedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a nodi’r cynnwys;
(b) Cefnogi gwella cyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth ... view the full Cofnodion text for item 125