Mater - cyfarfodydd

Electoral Reform in Wales

Cyfarfod: 13/12/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 58)

58 Diwygio Etholiadol yng Nghymru pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y Diwygio Etholiadol sy’n digwydd yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymgynghori ar flaenoriaethau uniongyrchol am ddiwygio yn 2017, yn y Papur Gwyn Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru.    Lluniwyd deddfwriaeth ar gyfer y blaenoriaethau uniongyrchol drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Roedd ail ran yr adroddiad yn egluro’r Papur Gwyn Gweinyddu a Diwygio Etholiadol a sut yr oedd LlC yn ceisio cyflymu eu rhaglen ddiwygio a sôn am yr hyn yr oeddent yn ei ddisgrifio fel cynllun uchelgeisiol i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru.

 

Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer:

 

·         Hyrwyddo ymgysylltiad mewn etholiadau

·         Ei gwneud hi’n haws a mwy syml sefyll mewn etholiad

·         Deddfwriaeth i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadau

·         Deddfwriaeth i wella’r ffordd o gynnal adolygiadau etholiadol a chymunedol ar gyfer llywodraeth leol

·         Deddfwriaeth i gydgrynhoi cyfraith etholiadol

·         Cynigion mwy hirdymor ar gyfer diwygio etholiadol i gefnogi democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol

 

Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 10 Ionawr 2023.

 

Roedd trydedd rhan yr adroddiad yn crynhoi Deddf Etholiadau 2022, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022 ac a oedd yn berthnasol ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Seneddol y DU.

 

Fe wnaeth effaith Deddf Etholiadau 2022 greu ymwahaniad yng Nghymru a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y system cyntaf i’r felin yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Cyngor Sir ar hyn o bryd.  Gallai’r Cyngor symud i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a byddai LlC yn darparu rhagor o ganllawiau am hyn ac eglurder o ran y cwota.  Pe bai’r Cyngor am ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, byddai angen cynnal adolygiad o ffiniau i ddechrau. Byddai hynny’n golygu wardiau o rhwng tri a chwe Aelod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon am y gofyniad am brawf adnabod pleidleiswyr a allai roi pwysau ar y tîm o ran cofrestru hwyr.  Dywedodd mai etholiadau Llywodraeth y DU oedd â’r nifer uchaf o bleidleiswyr, a oedd yn gweithredu system cyntaf i’r felin.  Roedd nifer sylweddol is yn pleidleisio yn etholiadau Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd y broses ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ddryslyd.  Nid oedd o blaid wardiau mawr â sawl aelod, a soniodd am bwysigrwydd y cysylltiad rhwng Aelodau lleol a’u cymuned.  Awgrymodd weithdy i’r holl Aelodau i ddatblygu’r hyn oedd angen, a gofynnodd a oedd modd estyn dyddiad cau 10 Ionawr.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gellid gwneud cais i estyn y dyddiad cau ac  ...  view the full Cofnodion text for item 58