Mater - cyfarfodydd

Joint Funded Care Packages - Update Report

Cyfarfod: 09/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 78)

78 Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint ers yr adroddiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2022.

 

Dangosodd dadansoddiad o’r sefyllfa ddiwedd Ionawr 2023 anfonebau heb eu talu a oedd yn dod i gyfanswm o £0.666 miliwn, gan gynnwys £0.127 miliwn yn ddyledus i’w ad-dalu o fewn yr wythnosau nesaf.  Ers mis Rhagfyr 2022, llwyddodd y broses gymrodeddu annibynnol rhwng y Cyngor a BIPBC i adennill £0.114 miliwn o hen ddyled, gan adael £0.327 miliwn i’w drafod drwy drefniadau cymrodeddu a fydd yn ailgychwyn cyn bo hir yn dilyn oedi dros dro yn sgil absenoldebau.  Roedd lefel y ddyled weithredol oedd yn weddill, sef £0.211 miliwn, yn welliant o 15.65% ar yr hyn yr adroddwyd arno ym mis Rhagfyr.

 

Wrth groesawu’r cynnydd, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Pwyllgor am eu rhan yn y gwaith o gyrraedd y sefyllfa hon.  Fodd bynnag, pwysleisiodd bod y £0.327 miliwn yn risg bosib pe bai’r broses gymrodeddu’n methu â datrys yr anfonebau hyn.

 

Adleisiwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Bill Crease.

 

Bu i’r Cynghorydd Paul Johnson gydnabod rôl y Pwyllgor o ran codi ymwybyddiaeth o’r mater, a thalodd deyrnged i’r swyddogion a BIPBC am eu cyfraniad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Jason Shallcross a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r gwaith rheoli cyllideb rhagweithiol parhaus o ran yr anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i’w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.