Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 7)

Cyfarfod: 15/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 60)

60 Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn – heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost – oedd diffyg gweithredol o £0.094 miliwn (heb gynnwys effaith dyfarniad tâl i gael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), gan adael balans cronfa wrth gefn o £4.055 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl ystyried effaith dyfarniad tâl.

 

Rhoddwyd diweddariad ar gymhwyster ar gyfer ceisiadau Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a lefel bresennol Cronfeydd Covid-19 Brys Wrth Gefn  (fel mesur i ddiogelu yn erbyn effeithiau parhaus y pandemig). Cafodd symudiadau sylweddol ar draws portffolios o fis 6 eu crynhoi yn cynnwys ceisiadau am ddwyn arian ymlaen mewn Tai a Chymunedau. Adroddodd y gwaith olrhain risgiau o fewn y flwyddyn ar effaith y dyfarniad tâl yn dilyn cadarnhau dyfarniad cyflog athrawon ar 5%.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £3.321 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.153 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am wybodaeth am faint y gordaliadau oedd yn ddyledus, ynghyd â’r cyfraddau adfer disgwyliedig a gwirioneddol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (Mis 7), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yna faterion oedd angen eu codi gyda’r Cabinet y tro hwn.