Mater - cyfarfodydd

Council Tax Premium Scheme for Second Homes and Long-term Empty Properties

Cyfarfod: 13/12/2022 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 57)

57 Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I’r Cyngor osod cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Preece yr ystafell cyn i’r eitem gael ei chyflwyno.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod ymgynghoriad cyhoeddus eang wedi’i gynnal ar gais y Cabinet rhwng 8 Tachwedd 2021 a 6 Rhagfyr 2021 i ganfasio barn y cyhoedd am y cynllun premiwm Treth y Cyngor presennol, ei effeithiolrwydd a’i effaith ar y gymuned leol, a defnydd o’r cynllun i gymell perchnogion i ddod ag eiddo i ddefnydd llawn er mwyn cefnogi cyflenwad tai lleol ar gyfer preswylwyr lleol.  Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio dewisiadau ar addasiadau i’r cyfraddau premiwm a’r manteision a risgiau canfyddedig o fabwysiadu unrhyw gynllun amgen neu gynllun wedi’i ddiwygio.

 

Daeth 504 o ymatebion i’r ymgynghoriad i law gan amrywiaeth eang o bobl a chafodd yr ymatebion eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

Roedd rôl y premiwm yn canolbwyntio ar annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd gyda’r baich ariannol a materion fforddiadwyedd a allai fod ar y partïon hynny, fel perchnogion newydd neu berchnogion presennol nad oedd ganddynt ddewis neu arian i gymryd camau uniongyrchol i ddod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael, o’r blaen, ers mis Ebrill 2017 pan gyflwynwyd y cynllun, roedd cyfradd premiwm o 50% wedi’i chyflwyno ar gyfer anheddau a ddynodwyd fel rhai wedi’u meddiannu o bryd i’w gilydd (cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) neu eiddo gwag hirdymor.

 

Ychwanegodd fod cwestiynau wedi’u gofyn hefyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori i’r rhai a allai gael eu heffeithio o bosibl pe bai’r cyfraddau’n cynyddu.  I gloi, roedd bron dau draean o ymatebwyr yn teimlo bod eiddo gwag hirdymor yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd bron hanner yr ymatebwyr yn teimlo bod ail gartrefi yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd rhywfaint dros hanner yr ymatebwyr yn teimlo y dylid cynyddu’r gyfradd premiwm i fwy na 50%.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am gyfraddau premiwm awdurdodau lleol eraill.  Roedd y Cabinet wedi argymell 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi.

 

Pe bai’r Cyngor yn penderfynu codi lefel y premiwm ar eiddo gwag hirdymor a/neu ail gartrefi, roedd posibilrwydd o gynyddu arenillion Treth y Cyngor a defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol yn unol â bwriadau polisi’r cynllun premiwm.

 

Byddai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir i gefnogi gwasanaethau yn dibynnu ar lefel ddiwygiedig y cyfraddau premiwm ond byddent yn cynnwys £101,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol sy’n uwch na 50% ar eiddo gwag hirdymor a £28,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol ar ail gartrefi dynodedig.  Roedd tablau yn yr adroddiad yn darparu darluniadau o’r cynnydd ar gyfer 50%, 60%, 70%, 75% a 100%.

 

Roedd diwygiad i’r argymhelliad fel a gafodd ei argraffu yn yr adroddiad, a’r diwygiad oedd “Bod y Cyngor yn ystyried y gyfradd premiwm bresennol o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor a phenderfynu a ddylid  ...  view the full Cofnodion text for item 57