Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 12)

12 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol, fe gynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod sesiwn hyfforddiant ar sgiliau cadeirio a chwestiynu yn cael ei drefnu ar gyfer Aelodau Trosolwg a Chraffu ym mis Medi.

 

Byddai’r cais gan y Cynghorydd Sam Swash yngl?n â chaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint yn cael ei basio ymlaen i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bill Crease ac Allan Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.